Neidio i'r prif gynnwy

Aros yn Iach

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai nad yw'r cynnwys yn gywir

Os ydych yn glaf ar restr aros am driniaeth, efallai y bydd angen cymorth arnoch tra byddwch yn aros. 

Mae Tîm Cadw mewn Cysylltiad Cwm Taf Morgannwg (KITT) yn dîm bach o staff ymroddedig sy’n canolbwyntio ar eich cefnogi tra byddwch yn aros am apwyntiadau neu driniaethau. Rydym hefyd am eich helpu i wneud y gorau o'ch iechyd a'ch lles wrth aros am eich triniaeth. 

Os ydych yn glaf ar restr aros am driniaeth, neu'n adnabod rhywun sydd angen cymorth tra bydd yn aros, gall y KITT helpu.  Mae’r tîm yn cynnig: 

  • Un pwynt cyswllt i roi cymorth a chyngor ar reoli eich iechyd, gan gyfeirio at wasanaethau priodol. 

  • Cyfle i sicrhau bod y wybodaeth sydd gennym ar eich cyfer yn gywir ac yn gyfredol. Mae'n bwysig iawn bod gennym y wybodaeth gywir i gysylltu â chi pan fydd angen. 

  • Cyfle i drafod beth sy’n bwysig i chi a’ch cyfeirio at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eraill, gan gynnwys gwasanaethau yn y gymuned a’r trydydd sector. 

  • Adolygiad o'ch sefyllfa tra'ch bod ar y rhestr aros, i weld a oes unrhyw gymorth ychwanegol a allai helpu i wella ansawdd eich bywyd a'ch annibyniaeth a'ch cefnogi i gadw rheolaeth dros eich cyflwr tra'n aros. 

  • Sicrwydd a chyngor ar beth gallwch ei wneud os bydd eich symptomau’n gawethygu.  

Gallwch gysylltu â KITT yn uniongyrchol dros y ffôn neu drwy e-bost. Mae ein swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 5.00pm (ac eithrio gwyliau banc). Y tu allan i'r oriau hyn, gadewch neges a bydd aelod o'r tîm yn eich ffonio yn ôl yn ystod oriau swyddfa. 

Ffôn: 01685 728735

E-bost: CTM.VALIDATION.PCH@wales.nhs.uk

 

Aros yn Iach 

Os ydych yn aros am lawdriniaeth neu driniaeth ar hyn o bryd, gall paratoi'n effeithiol wneud gwahaniaeth sylweddol i'ch profiad o driniaeth a'ch adferiad. Mae’r fideo hwn gan Goleg Brenhinol yr Anaesthetegyddion yn rhoi cyngor defnyddiol: Paratoi ar gyfer llawdriniaeth: Fitter Better Sooner 2022 

Gall eich triniaeth wedi’i chynllunio fod yn her i chi a'ch corff. Gall gwneud nifer fach o newidiadau wneud gwahaniaeth mawr i'r ffordd yr ydych yn ymateb ac yn gwella ar ôl eich triniaeth. Y meysydd i’w hystyried i’ch cadw’n iach tra byddwch yn aros yw: bwyta’n iach, rhoi’r gorau i ysmygu, eich lefelau gweithgarwch corfforol, ymwybyddiaeth o ddefnydd o alcohol a chyffuriau, eich lles meddyliol ac ymdopi â phryder. Mae gwybodaeth i’w chael yn yr adran ‘Cadw’n Iach Tra Rydych chi’n Aros’ i’ch helpu i:  

  • cael gwell ymateb i'ch triniaeth yn y dyfodol ac adferiad cyflymach 

  • gwella eich lefelau egni, lleihau blinder a gwella eich patrwm cysgu 

  • cynnal eich annibyniaeth a gwneud mwy o'ch gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd 

  • gwella eich ffitrwydd cyffredinol a'ch synnwyr o les a hyrwyddo ffordd iach o fyw hirdymor 

Cwestiynau Cyffredin

Cadw’n iach tra byddwch yn aros  

 

Dilynwch ni: