Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn lansio Siarter Ysbytai sy'n Deall Dementia Cymru Gyfan

Heddiw, 6 Ebrill 2022, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ynghyd â holl Fyrddau Iechyd Cymru, yn lansio Siarter Ysbytai sy’n Deall Dementia Cymru Gyfan.

Mae Siarter Ysbytai sy’n Deall Dementia Cymru Gyfan yn rhan o gynllun gwaith Gwelliant Cymru sy’n ymwneud yn gyfan gwbl â dementia. Nod y Siarter yw cynorthwyo ac ysgogi gwelliannau ansawdd ar draws ysbytai i gefnogi gwell gofal a phrofiad i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr/ partneriaid. Mae hefyd yn sicrhau y gallwn wella ar fod yn Fwrdd Iechyd sy’n deall dementia, gan ddarparu’r gofal gorau posibl i gleifion â dementia a’u teuluoedd.

Dywedodd Lauren Edwards, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddorau Iechyd CTM: “Rydw i wrth fy modd yn cael cynrychioli Cwm Taf Morgannwg yn lansiad y Siarter heddiw. Fel sefydliad, rydyn ni wedi chwarae rhan weithredol yn y gwaith o lunio ei chynnwys, ac rydyn ni wedi ymrwymo’n gyfan gwbl i sicrhau’r canlyniadau a’r profiadau gorau posibl i bobl gyda dementia a’u teuluoedd. Mae'r Siarter yn amlinellu'r safonau’n glir, ac o ganlyniad, gallwn ni fesur ein cynnydd. 

“Gall treulio amser yn yr ysbyty beri gofid eithriadol, ac mae hyn yn arbennig o wir i bobl gyda dementia a’r bobl sy’n annwyl iddyn nhw. Mae llofnodi’r Siarter hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi pob cydweithiwr er mwyn diwallu anghenion a disgwyliadau pobl sy’n byw gyda dementia ar draws ein holl ysbytai. Fel rhywun sy’n newydd i’r sefydliad, rydw i wedi cael fy siomi ar yr ochr orau o gyfraniadau ac ymrwymiad sylweddol ein clinigwyr i ddatblygu’r Siarter hon, sydd wedi’i chynhyrchu ar y cyd.”

Gyda chefnogaeth Gwelliant Cymru, cynhyrchwyd siarter i Gymru, ac mae platfform Care Fit for VIPS yn cael ei gyflwyno. Bydd wardiau ac adrannau ar draws CTM yn cael eu henwebu ar gyfer arbrawf platfform Care Fit for VIPS. 

Offeryn asesu yw VIPS i sicrhau bod gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gael i bobl â dementia, ac mae’n cynorthwyo staff a sefydliadau i raddio cynnydd. .

Mae VIPS yn golygu:

V = Gwerthfawrogi pobl
I = Anghenion yr unigolyn
P = Persbectif defnyddiwr y gwasanaeth
S =  Seicoleg gymdeithasol gefnogol.

Mae Gwelliant Cymru yn disgrifio dangosyddion VIPS fel: “Mae staff yn gwybod hanes bywyd pob unigolyn ac yn ei ddefnyddio mewn modd cadarnhaol yn eu rhyngweithio bob dydd.”

Dywedodd Ana Llewellyn, Cyfarwyddwr Nyrsio a Chadeirydd Grŵp Llywio Rhanbarthol CTM: “Rydw i wrth fy modd bod lansiad y Siarter Ysbytai yn dangos i’r bobl yn ein cymunedau ein hymrwymiad i sicrhau gofal i bobl â dementia. Pan fydd unigolyn sy’n byw gyda dementia yn cael ei dderbyn i un o’n hysbytai, byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael y gofal gorau posibl, yn ystod ei amser gyda ni, nes iddo gael ei ryddhau. Mae grŵp ymroddedig gyda ni, sy’n cynnwys pobl ar draws sefydliadau a chymunedau yn CTM a fydd yn sicrhau ein bod yn cyflawni bwriadau’r Siarter Ysbytai.”