Ddylem ni ddim gorfod cario pwysau'r gorffennol ar ein hysgwyddau. Mae heneiddio'n dda yn sicrhau ein bod ni’n parhau i wneud y gorau o fywyd ac yn sicrhau ein bod yn dal i fyw'n dda yn ystod ein blynyddoedd hŷn.
Sut gallai hynny edrych a theimlo?
Mynd i'r afael ag eiddilwch yn uniongyrchol, gan
ganolbwyntio ar ganfod problemau, cynllunio ar
eu cyfer a darparu cymorth sy'n cydnabod y
risgiau cynyddol sy'n gysylltiedig â heneiddio.
System sy'n gweithio ar gyfer ein poblogaeth sy'n
heneiddio, ac sy'n ceisio diwallu eu hanghenion
mewn ffordd hygyrch, leol a thosturiol.
Deall y rôl mae rhwydweithiau cymorth o bob math yn
ei chwarae wrth atal niwed neu salwch mae modd ei
osgoi. Gweithio gyda'r rhwydweithiau hyn i gryfhau'r
profiad o ofal iechyd.
Mynd i'r afael â heriau poblogaeth sy'n heneiddio mewn ffordd
sy'n gost-effeithiol ac sy'n lleihau teithiau i leoliadau gofal, gan
ganolbwyntio ar ddarparu gofal yn y cartref yn gyntaf.