Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Nodau a Datganiad Lles

Ar gyfer y 44 o Gyrff Cyhoeddus y mae'r Ddeddf yn eu cynnwys, dyletswydd graidd yw bod rhaid iddyn nhw osod amcanion llesiant sy'n gwella eu cyfraniad at gyflawni'r saith nod llesiant ac adrodd sut maen nhw’n gwneud cynnydd tuag at gyflawni'r rhain bob blwyddyn.

Yn dilyn sefydlu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ym mis Ebrill 2019, cafodd cyfres newydd o amcanion strategol eu llunio ar y cyd â chleifion a staff er mwyn helpu i lywio cyfeiriad y sefydliad yn y dyfodol.

Wrth ddatblygu’r amcanion llesiant hyn, mae Egwyddor Datblygu Cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi cael ei rhoi ar waith, ac mae’n sail i’r cynllunio a’r cyflawni ledled BIPCTM. Bydd yr amcanion llesiant strategol hyn yn ein galluogi i ganolbwyntio ar y saith Nod Llesiant, ac yn hyrwyddo ein cyfraniad tuag atynt. Mae’r Cynllun Tymor Canolig Integredig (2021-2024) yn amlinellu elfennau allweddol sydd i’w cyflawni, gan amlygu’r modd y bydd y rhain yn cael eu cyflawni dros y tair blynedd nesaf.

Astudiaethau achos

Er mwyn dangos sut mae'r Bwrdd Iechyd yn cymhwyso egwyddorion y Ddeddf, rydyn ni wedi creu'r astudiaethau achos canlynol sy'n enghreifftiau ymarferol o sut mae’r pum ffordd o weithio wedi cael eu cymhwyso i wneud y mwyaf o'n cyfraniad at y nodau cenedlaethol ac i gyflawni newidiadau pwysig.

  • Prosiect Cymunedau Cysylltiedig
  • Y Cynllun Ysgolion Iach a’r Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy
  • Y rhaglen DEWIS
  • Presgripsiynu cymdeithasol
  • Caffael Cynaliadwy