Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol

Nododd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yr angen statudol i ranbarthau greu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol er mwyn goruchwylio dulliau strategol integredig o ddarparu gwasanaethau integredig iechyd a gofal cymdeithasol.  Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi “Cymru Iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol” sy’n pwysleisio’r angen i atal salwch drwy helpu pobl i reoli eu hiechyd a’u lles eu hunain a galluogi pobl i fyw’n annibynnol cyhyd ag sy’n bosib.

Yn ogystal â hynny, cadarnhaodd “Cymru Iachach” bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ar lefel ranbarthol er mwyn datblygu modelau newydd o iechyd a gofal cymdeithasol integredig sy’n arloesol ac sy’n mynd i’r afael â blaenoriaethau rhanbarthol.  Mae disgwyl i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ddarparu rôl cydlynu a goruchwylio gref fel y tynnwyd sylw ati gan ddisgwyliadau’r rhaglen trawsnewid genedlaethol a’r angen i’r Byrddau hynny feddu ar gyfrifoldeb arweiniol am ddatblygu, gweithredu a chyflawni ceisiadau unigol.

Mae disgwyliadau cenedlaethol o’r fath yn pwysleisio’n glir rôl hanfodol Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol o ran trawsnewid y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn ôl y disgwyl er mwyn i wasanaethau gydlynu’n well ac i sicrhau eu bod nhw’n ddi-dor.

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg yn dod â’r sector iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y sector tai, y trydydd sector a phartneriaid eraill ynghyd er mwyn datblygu gwasanaethau integredig yn effeithiol yng Nghymru.  Mae Uned Comisiynu Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg yn gweithio ar ran y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

Cysylltwch â ni

Uned Gomisiynu Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg

Canolfan Arloesi'r Cymoedd

Parc Hen Lofa'r Navigation

Abercynon

CF45 4SN

Rhif ffôn: 01443 570046

 Cynllun Rhanbarthol Cwm Taf 2018 – Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (PDF, 277Kb)
 Adroddiad Blynyddol 2018/2019 (PDF, 524Kb)
 Partneriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cwm Taf Adroddiad y Paneli Cymunedol a gynhaliwyd yn Rhagfyr 2017 (PDF, 389Kb)
 Bwrdd Partneriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cwm Taf (PDF, 1.3Mb)
 Trosolwg o'r prif gamau gweithredu ar gyfer ein cymuned yn ystod 2018-2019 (PDF, 7.0Mb)