Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddaraf am darfu a newidiadau i wasanaethau yn Ysbyty Tywysoges Cymru


Am y wybodaeth ddiweddaraf am yr aflonyddwch a achosir gan y gwaith amnewid to sydd ei angen yn Ysbyty Tywysoges Cymru, gweler ein cwestiynau cyffredin isod.

Mae'r Cwestiynau Cyffredin hwn yn cynnwys y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf am y gwaith sydd ar y gweill a sut y gallai effeithio arnoch chi.

Mynychwch unrhyw apwyntiadau sydd wedi'u trefnu yn yr ysbyty oni bai ein bod yn cysylltu â chi i aildrefnu eich ymweliad.

 

 

FAQ Diweddarwyd - 10/02/25

Cwestiynau Cyffredin

Sut mae'r gwaith yn mynd rhagddo?

Arweiniodd materion parhaus gyda dŵr glaw i mewn i'r adeilad at arolwg strwythurol llawn o do'r prif adeilad.

Derbyniodd y bwrdd iechyd adroddiad manwl ar 9 Hydref 2024 a ddatgelodd ddirywiad difrifol i’r to a fydd yn gofyn am raglen adnewyddu sylweddol.

I fod yn glir, mae hyn yn fwy difrifol na chafnau a pheipiau glaw wedi'u blocio. Cafodd llawer o do’r ysbyty ei adeiladu'n 40 mlynedd yn ôl, ac mae technegau a deunyddiau wedi gwella’n sylweddol yn y cyfnod hwnnw. Er enghraifft, nid oedd cynllun y to yn addas ar gyfer awyru digonol ac mae hyn wedi arwain at yr estyll to pren, sy'n cynnal y teils concrid i bydru.

I roi syniad o raddfa'r gwaith sydd ei angen, mae'r to YTC tua 10,000 metr sgwâr. Mae hynny'n cyfateb yn fras i 166 o dai teras, neu 100 o dai sengl pedair ystafell wely. Yn y bôn, maint datblygiad tai mawr.

Pam nad oeddech chi'n gwybod bod angen y gwaith hwn yn gynharach?

Mae’r bwrdd iechyd wedi gwario tua £20m yn cynnal a chadw Ysbyty Tywysoges Cymru yn y pum mlynedd diwethaf, gan flaenoriaethu’r materion hynny a chafodd eu nodi bod angen rhoi sylw iddyn nhw ar unwaith er mwyn diogelu cleifion a staff. Mae hyn wedi cynnwys gwaith atgyweirio i'r to i fynd i'r afael â gollyngiadau ynysig.

Fodd bynnag, pan ddioddefodd yr ysbyty gyfres fwy parhaus ac eang o ollyngiadau y mis diwethaf, gwnaethom waith ar unwaith, yn cynnwys contractwyr arbenigol, i gynnal arolygon strwythurol mwy ymledol a chynhwysfawr o'r to. Mae cynnal ein harolygon hyn wedi golygu bod angen codi rhwydwaith cymhleth o sgaffaldiau i alluogi arbenigwyr toi i gael mynediad diogel i'r to. Nid oedd y problemau mewnol difrifol gyda'r to yn weladwy cyn cynnal yr arolwg hwn.

Sut mae'r gwaith yn mynd rhagddo?

Dechreuodd y gwaith ailosod to ym mis Tachwedd 2024 ac mae'n cael ei wneud fesul cam. Mae hyn yn golygu, wrth i rannau o'r to gael eu newid, y gallwn symud gwasanaethau a chleifion yn ôl i'r ardaloedd hynny tra byddwn yn parhau â'r gwaith ailosod to mewn mannau eraill.

Mae cam cyntaf y gwaith adnewyddu toeau bellach wedi'i gwblhau ac mae gofal mamolaeth a newyddenedigol yn dychwelyd i'r ysbyty y mis hwn (Chwefror).  

Mae hon yn rhaglen waith sylweddol iawn a rydym yn gwybod y bydd yn cymryd misoedd lawer i'w chwblhau. Mae’n debygol y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ddiwedd haf 2025.

Beth mae hyn yn ei olygu i gleifion?

Oherwydd cyflwr y to ar y prif adeilad yn Ysbyty Tywysoges Cymru, bu'n rhaid symud cleifion allan o wardiau ar y llawr cyntaf. Mae hyn yn golygu lletya tua 200 o gleifion mewn lleoliadau amgen.

Er bod hon yn sefyllfa anarferol, mae’r GIG wedi hen arfer ag ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl felly rydym yn hyderus y byddwn yn gallu gwneud y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau y gall ein cleifion barhau i gael gofal priodol a diogel.

Rydym yn ddiolchgar iawn i’n cleifion, y cyhoedd a’n staff am eu dealltwriaeth a’u cydweithrediad wrth i ni reoli’r sefyllfa gymhleth hon.

Pa wasanaethau sydd wedi symud?

Rydym wedi trosglwyddo bron i 200 o gleifion o’r wardiau ar lawr cyntaf Ysbyty Tywysoges Cymru i leoliadau amgen i barhau â’u gofal parhaus a’u hadferiad.

Bu'n rhaid cau'r chwe phrif theatr llawdriniaethau yn Ysbyty Tywysoges Cymru hefyd. Yn lle hynny, bydd cleifion sydd wedi trefnu i gael llawdriniaeth fawr wedi'i gynllunio yn YTC, yn cael eu llawdriniaeth mewn un arall o'n hysbytai.

Rydym yn parhau i ddarparu llawdriniaeth ddydd yn YTC. Mae gweithdrefn llawdriniaeth ddydd yn un nad yw'n ei gwneud yn ofynnol i'r claf aros yn yr ysbyty dros nos ar ôl ei lawdriniaeth.

Mae'r uned gofal dwys yn YTC hefyd wedi'i symud i fan newydd yn yr un ysbyty gan leihau'r aflonyddwch i'r cleifion hynny sydd angen y cymorth meddygol mwyaf.

Ydy hyn hefyd yn effeithio ar ysbytai eraill BIPCTM?

Ydy. Er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu’r gofal a’r driniaeth orau bosibl i gleifion, ac er mwyn darparu ar gyfer y cleifion hynny sy’n fwy sâl ac angen gwely yn ddiogel, mae rhai cleifion wedi’u trosglwyddo o YTC i ysbytai eraill sy’n cael eu rhedeg gan ein bwrdd iechyd.

Mae hyn yn golygu bod rhai gwasanaethau a ddarperir o'r ysbytai hyn wedi'u symud i leoedd eraill hefyd.

Beth mae hyn yn ei olygu i'r rhai sydd am ymweld â chlaf tra bydd yn yr ysbyty?

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i gleifion weld teulu a ffrindiau tra byddan nhw’n aros yn yr ysbyty. Rydym yn deall y gallai fod yn anoddach i bobl ymweld â chleifion mewn ysbyty gwahanol ac rydym yn ddiolchgar am ddealltwriaeth pobl wrth i ni ymateb i’r sefyllfa ryfeddol hon a chadw eu hanwyliaid yn ddiogel.

Ydy apwyntiadau llawdriniaeth wedi'i gynllunio yn cael eu heffeithio?

Rydym yn gweithio'n galed i darfu cyn lleied â phosibl ar lawdriniaeth wedi'i gynllunio (neu 'ddifrys'). Fodd bynnag, oherwydd na allwn redeg pob un o’n theatrau llawdriniaethau mewn YTC a bod gennym lai o welyau y gall cleifion wella ynddyn nhw, mae angen gohirio rhai triniaethau a phrofion.

Ni fydd apwyntiadau brys, gan gynnwys y rhai ar gyfer canserau a amheuir neu ganserau a ganfuwyd, yn cael eu gohirio.  

Dim ond pan fetho popeth arall y byddwn ni'n gohirio llawdriniaethau a phrofion a phan fydd hyn er lles gorau cleifion. Rydym yn deall pa mor ofidus y gall fod i gleifion a’u teuluoedd pan na fydd llawdriniaeth yn mynd ymlaen fel sydd wedi cael ei gynllunio ac rydym yn gweithio’n galed i aildrefnu apwyntiadau cyn gynted â phosibl.

Gallwn sicrhau cleifion y mae eu llawdriniaethau yn cael eu gohirio neu eu symud i safle arall na fydd hyn yn effeithio ar eu safle ar y rhestr aros.

Byddwn bob amser yn cysylltu â chleifion yn uniongyrchol os oes angen newid dyddiad llawdriniaeth neu apwyntiad arall.

Beth os oes angen llawdriniaeth frys, heb ei gynllunio ar rywun?

Os bydd claf, yn ystod y cyfnod hwn o waith, yn cyrraedd YTC ac yn cael ei asesu fel un sydd angen mathau penodol o lawdriniaeth frys arbenigol, bydd y timau clinigol arbenigol yn yr ysbyty yn gwneud y claf yn sefydlog ac yn trefnu iddo gael ei drosglwyddo ar frys i ysbyty arall i dderbyn y gofal a’r driniaeth sydd eu hangen arnyn nhw.

Nid yw trosglwyddo cleifion rhwng ysbytai, i’w galluogi i gael sylw arbenigol, yn anarferol yn y GIG ac mae’n digwydd yn aml pan fydd rhywun wedi dioddef trawma difrifol. 

Bydd y rhan fwyaf o gleifion sydd wedi dioddef trawma difrifol yn cyrraedd yr ysbyty mewn ambiwlans, a bydden nhw’n cael eu cludo’n syth i’r ysbyty sydd â’r sefyllfa orau i’w trin.

Sut bydd cleifion yn cael eu trosglwyddo o YTC i leoliadau eraill?

Er mwyn sicrhau y gallwn symud cleifion yn ddiogel o YTC i ysbytai eraill mewn modd amserol, rydym wedi comisiynu cerbyd arbenigol gan y gwasanaeth ambiwlans. Mae hyn yn golygu y gall y cleifion hyn gael eu symud o dan ofal arbenigol, heb effeithio ar gapasiti’r gwasanaeth ambiwlans.

Ydy'r adran argyfwng yn YTC yn cael ei effeithio?

Nid yw'r adran argyfwng (ED) yn cael ei effeithio gan y broblemau yr ydym yn eu rheoli yn rhan hynaf llawr cyntaf y prif ysbyty.

Sut y galla i gael y wybodaeth ddiweddaraf?

Y peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud yw cael gwybod sut y gall y newidiadau hyn effeithio arnoch chi neu'ch teulu. Gallwch ymweld â'n gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf, lle byddwn yn diweddaru'r Cwestiynau Cyffredin hwn yn rheolaidd, neu dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol ar Facebook neu X.

Rydym hefyd angen eich cydweithrediad, amynedd a chefnogaeth wrth i ni reoli'r sefyllfa ddigynsail hon. Cofiwch fod ein staff yn gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau'r aflonyddwch a brofir gan gleifion, y cyhoedd a chydweithwyr. Mae dyfalu neu wybodaeth anghywir sy’n cael ei rhannu ar gyfryngau cymdeithasol yn peri gofid i staff a gall ei gwneud yn anoddach i ni gadw cleifion ac eraill yn hysbys ac yn ddiogel.

Rydym yn falch iawn o’r ffordd y mae ein staff wedi ymateb i’r sefyllfa hon a hoffem ddiolch hefyd i’r cyhoedd am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth.

Oes risg y bydd YTC yn cau yn gyfan gwbl?

Nac oes. Rydym yn buddsoddi miliynau o bunnoedd yn y gwaith o adnewyddu'r to a gwelliannau eraill i wneud YTC yn lle gwell a mwy diogel i gleifion dderbyn gofal ac i'n staff weithio.

Dilynwch ni: