Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli Heintiadau

Os ydych yn teimlo'n wael, gan gynnwys symptomau fel peswch, annwyd, y dolur rhydd, chwydu neu unrhyw arwyddion eraill o heintiad, peidiwch ag ymweld â'r ysbyty.

Defnyddiwch y diheintydd dwylo a ddarperir wrth fynd i mewn ac allan o’r ysbyty a’r wardiau. Mae hyn yn helpu i leihau lledaeniad heintiadau. 

Er diogelwch pawb, dilynwch arweiniad y staff ac unrhyw arwyddion ynghylch gwisgo masgiau a chyfarpar diogelu personol (PPE). Os ydych chi wedi cael eithriad meddygol, siaradwch â staff y ward cyn mynd i mewn.

Defnyddiwch y cadeiriau sydd ar gael a pheidiwch ag eistedd ar welyau cleifion.

I helpu cynnal amgylchedd diogel a thaclus, cadwch y byrddau wrth y gwely yn rhydd o lanast a defnyddiwch y biniau a ddarperir. Cymerwch unrhyw eiddo nad oes ei hangen adref gyda chi, ac unrhyw beth sydd angen ei olchi. All y Bwrdd Iechyd ddim derbyn cyfrifoldeb am eitemau gwerthfawr a gollwyd.

Peidiwch â dod â bwyd i'r ysbyty, yn enwedig eitemau sy'n gofyn am gael eu rhoi yn yr oergell neu eu cynhesu.

Er diogelwch a chysur pawb, ni ddylid dod â blodau a phlanhigion mewn potiau i ardaloedd y ward.

Dilynwch ni: