Neidio i'r prif gynnwy

Parch, Preifatrwydd a Chyfrinachedd

Gallai fod adegau pan fydd gofyn i chi gamu allan o'r ward am ychydig i helpu i gynnal preifatrwydd a chysur y claf rydych yn ymweld ag ef neu gleifion eraill tra bod gofal yn cael ei ddarparu.

Gadewch i'r staff gwblhau cylchdroeon meddyginiaeth heb ymyrraeth, gan fod hyn yn helpu i leihau'r risg o gamgymeriadau.

I sicrhau y gall y staff meddygol gyflawni eu dyletswyddau heb darfu, gofynnwn i chi ganiatáu iddyn nhw ganolbwyntio ar eu gwaith.  Os oes arnoch diweddariad arnoch neu os ydych am drefnu apwyntiad, siaradwch ag aelod o’r tîm nyrsio, a fydd yn hapus i’ch cynorthwyo.

Pryd bynnag y bo modd, dewiswch aelod unigol o'r teulu neu ffrind fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer cyfathrebu gyda'n staff. Mae hyn yn helpu i leihau dyblygu ac sicrhau diweddariadau cyson. Byddwch yn ymwybodol na ellir rhannu gwybodaeth oni bai bod y claf wedi cydsynio i hynny.

Os na allwch ymweld â'ch anwylyd ond eisiau anfon negeseuon neu drefnu galwadau fideo, trafodwch hyn ag aelod o staff os gwelwch yn dda.

Dilynwch ni: