Mae amseroedd bwyta yn bwysig i sicrhau bod cleifion yn gallu bwyta'n dda ac yn mwynhau eu bwyd. Peidiwch ddod yn ystod y cyfnodau hyn, oni bai eich bod yn helpu gyda bwyta.
Mae angen amser i orffwys ar gleifion hefyd, felly gofynnwn i ymwelwyr ganiatáu seibiannau tawel drwy gydol y dydd.
Gallwch helpu i atal cleifion rhag datgyflyru drwy eu hannog i eistedd i fyny neu gerdded ychydig o gamau byr, os ydyn nhw’n gallu. Siaradwch ag aelod o staff cyn gwneud hynny. Os hoffech chi fynd â chleifion y tu allan am aer ffres, gwiriwch gyda staff y ward cyn gadael y ward. Mae cadeiriau olwyn ar gael os oes angen.