Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda | |
Dyddiad cychwyn | Amser |
04/04/2023 | 10:00yb |
04/04/2023 | 13:00pm |
04/07/2023 | 10:00yb |
04/07/2023 | 13:00pm |
04/10/2023 | 10:00yb |
04/10/2023 | 13:00pm |
16/01/2024 | 10:00yb |
16/01/2024 | 13:00pm |
19/01/2024 | 10:00yb |
Canolfan Hamdden Llantristant | |
Dyddiad cychwyn | Amser |
06/04/2023 | 10:00yb |
06/07/2023 | 10:00yb |
05/10/2023 | 10:00yb |
18/01/2024 | 10:00yb |
15/01/2024 | 13:00pm |
Canolfan Hamdden Tonyrefail | |
Dyddiad cychwyn | Amser |
06/04/2023 | 13:00pm |
06/07/2023 | 13:00pm |
05/10/2023 | 13:00pm |
18/01/2024 | 13:00pm |
Canolfan Hamdden Sobell | |
Dyddiad cychwyn | Amser |
05/04/2023 | 11:00yb |
05/07/2023 | 11:00yb |
04/10/2023 | 11:00yb |
17/01/2024 | 11:00yb |
19/01/2024 | 13:00pm |
Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen | |
Dyddiad cychwyn | Amser |
03/04/2023 | 18:00pm |
03/07/2023 | 18:00pm |
02/10/2023 | 18:00pm |
15/01/2024 | 18:00pm |
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Gwella Lles (WISE), wedi datblygu'r Rhaglen Gofal y Cymalau, sy'n rhaglen 12 wythnos yn y gymuned wedi'i thargedu at gleifion sydd dros eu pwysau ac sydd â phoen cronig yn eu pen-glin a/neu eu clun.
Bydd y rhaglen yn eu cefnogi i golli pwysau, cynyddu lefelau gweithgarwch a gwella eu hiechyd a'u lles cyffredinol. Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn addysg maeth, dosbarthiadau coginio yn ogystal â sesiynau ymarfer corff effaith isel.
Mae modd cael eich atgyfeirio at y Rhaglen Gofal y Cymalau drwy eich meddyg teulu, ffisiotherapydd, deietegydd, neu unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig.
Ar ôl i weithiwr gofal iechyd proffesiynol roi sêl bendith ar y ffurflen, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn neu'r drwy’r post i wneud apwyntiad i chi gwrdd â'ch gweithiwr ymarfer corff proffesiynol.
Yn ystod eich ymweliad cyntaf, bydd eich gweithiwr ymarfer corff proffesiynol yn cwrdd â chi i gael gwybod mwy am hanes eich iechyd, cynnal gwiriadau iechyd sylfaenol a thrafod pa weithgareddau sy’n addas i chi.
Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan weithwyr ymarfer corff proffesiynol hyfforddedig, (manylion isod) a chânt eu cefnogi gan Dîm Iechyd Cyhoeddus CTM a deietegwyr iechyd cyhoeddus.
Dywedodd Rebecca Rees, Tiwtor Rhaglen Gofal y Cymalau: “Mae cyflwyno'r Rhaglen Gofal y Cymalau yn rhoi boddhad mawr i mi. Rydw i’n mwynhau bod yn rhan o daith y claf a'i gefnogi i gyflawni ei amcanion”.
Ar ddiwedd y rhaglen byddwch yn cael eich gwahodd i apwyntiad dilynol er mwyn trafod eich cynnydd, a’ch anghenion o ran ymarfer corff yn yr hirdymor. Yn ogystal â hynny, bydd adroddiad ynglŷn â'ch cynnydd a'ch canlyniadau'n cael ei anfon at yr unigolyn a wnaeth eich cyfeirio.
Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) hefyd ar gael ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Unwaith y byddwch wedi cwblhau Rhaglen Gofal y Cymalau, mae opsiwn gyda chi i ymuno â chynllun NERS os ydych yn dymuno, a bydd gyda chi’r opsiwn i ddefnyddio cyfleusterau eich canolfan hamdden leol am bris is.
Mae rhaglenni Get Cooking hefyd ar gael i gefnogi newid ymddygiad parhaus gydag arferion siopa, coginio a bwyta. Ewch i: https://bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/deietegwyr-iechyd-y-cyhoedd/ i weld pa wasanaethau cymorth eraill sydd ar gael ac i archebu eich hun yn uniongyrchol ar raglen.
Os hoffech wybod mwy am Raglen Gofal y Cymalau, cysylltwch â chydlynwyr y rhaglen neu unrhyw un o'r tîm isod, neu ewch i: https://bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/rhaglen-gofal-y-cymalau/
Os ydych yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol a hoffech gyfeirio claf i'r Rhaglen Gofal ar y Cyd, ewch i: Raglen Gofal y Cymalau (Sharepoint)
Carla Jackson – Cydlynydd Atgyfeirio Rhaglen Gofal y Cymalau ym Merthyr
Ffôn: 07709719745
E-bost: carla.jackson@merthyr.gov.uk
Luke Foxwell – Cydlynydd Atgyfeirio RhCT
Ffôn: 07384537292
E-bost: Luke.Foxwell@rctcbc.gov.uk
Stuart Mitchell – Cydlynydd Atgyfeirio Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 678862
E-bost: stuart.mitchell@haloleisure.org.uk
Manylion cyswllt Iechyd Cyhoeddus Cymru CTM:
Rachel Reed (Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus Cymru)
E-bost: Rachel.Reed@wales.nhs.uk
Manylion cyswllt deietegydd CTM:
Jade Baxter (Deietegydd Iechyd Cyhoeddus)
E-bost: CTT_dietetics_public-health@wales.nhs.uk