Y menopos yw pan fydd mislif menyw yn dod i ben ac nid yw’n gallu beichiogi yn naturiol bellach.
Bydd y mislif fel arfer yn dod yn llai aml dros gyfnod o fisoedd neu flynyddoedd cyn dod i ben yn gyfan gwbl. Weithiau gall ddod i ben yn sydyn.
Mae’r menopos yn rhan naturiol o heneiddio sydd fel arfer yn digwydd rhwng 45 a 55 mlwydd oed, wrth i lefelau oestrogen ostwng. Yn y DU, oedran cyfartalog cyrraedd y menopos yw 51.
Ond mae 1 o bob 100 o fenywod yn cael y menopos cyn eu bod yn 40 oed. Gelwir hyn yn menopos cynamserol neu annigonolrwydd cynamserol yr ofari.
Symptomau’r menopos
Bydd y rhan fwyaf o fenywod yn cael symptomau yn sgil y menopos. Gall rhai o’r rhain fod yn eithaf difrifol a chael effaith ar eich gweithgareddau bob dydd.
Mae symptomau cyffredin yn cynnwys:
Gall symptomau’r menopos ddechrau misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd cyn i’ch mislif ddod i ben a pharhau am ryw 4 mlynedd ar ôl eich mislif olaf, ond bydd rhai menywod yn eu cael am lawer hirach.
Pryd i weld eich meddyg teulu
Mae’n werth siarad gyda meddyg teulu os oes gennych symptomau’r menopos sy’n achosi trafferthion i chi neu os ydych yn cael symptomau’r menopos cyn eich bod yn 45 oed.
Fel arfer, gall gadarnhau eich bod yn y menopos ar sail eich symptomau ond gellir cynnal prawf gwaed i fesur lefelau eich hormonau os ydych dan 45 oed.
I gael rhagor o wybodaeth am Menopos, ewch i wefan GIG 111 Cymru.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm