Neidio i'r prif gynnwy

Menopos

Menopos

Y menopos yw pan fydd mislif menyw yn dod i ben ac nid yw’n gallu beichiogi yn naturiol bellach.

Bydd y mislif fel arfer yn dod yn llai aml dros gyfnod o fisoedd neu flynyddoedd cyn dod i ben yn gyfan gwbl.  Weithiau gall ddod i ben yn sydyn.

Mae’r menopos yn rhan naturiol o heneiddio sydd fel arfer yn digwydd rhwng 45 a 55 mlwydd oed, wrth i lefelau oestrogen ostwng.  Yn y DU, oedran cyfartalog cyrraedd y menopos yw 51.

Ond mae 1 o bob 100 o fenywod yn cael y menopos cyn eu bod yn 40 oed.  Gelwir hyn yn menopos cynamserol neu annigonolrwydd cynamserol yr ofari.

Symptomau’r menopos

Bydd y rhan fwyaf o fenywod yn cael symptomau yn sgil y menopos. Gall rhai o’r rhain fod yn eithaf difrifol a chael effaith ar eich gweithgareddau bob dydd.

Mae symptomau cyffredin yn cynnwys:

  • pyliau o wres
  • chwysu yn ystod y nos
  • sychder y wain a rhyw yn anghyfforddus
  • anhawster cysgu
  • hwyliau isel neu orbryder
  • llai o awydd i gael rhyw (libido)
  • problemau â’r cof a’r gallu i ganolbwyntio

Gall symptomau’r menopos ddechrau misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd cyn i’ch mislif ddod i ben a pharhau am ryw 4 mlynedd ar ôl eich mislif olaf, ond bydd rhai menywod yn eu cael am lawer hirach.

Pryd i weld eich meddyg teulu

Mae’n werth siarad gyda meddyg teulu os oes gennych symptomau’r menopos sy’n achosi trafferthion i chi neu os ydych yn cael symptomau’r menopos cyn eich bod yn 45 oed.

Fel arfer, gall gadarnhau eich bod yn y menopos ar sail eich symptomau ond gellir cynnal prawf gwaed i fesur lefelau eich hormonau os ydych dan 45 oed.

I gael rhagor o wybodaeth am Menopos, ewch i wefan GIG 111 Cymru

 


Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE

Dychwelyd at Cyflyrau Iechyd