Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr 1–7 Mehefin yn gyfle gwych i ddweud diolch i bob un o’n gwirfoddolwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Yn ogystal â hynny, mae’n rhoi cyfle i arddangos y rolau y mae ein gwirfoddolwyr yn eu chwarae, eu heffaith wrth wella nid yn unig profiad cleifion ond hefyd cefnogi a chanmol rôl ein staff. Mae ein gwirfoddolwyr yn allweddol wrth gefnogi rhedeg y grŵp garddio therapiwtig drwy:
Cefnogi’r Therapydd Galwedigaethol a’r Technegydd Therapi Galwedigaethol i redeg y grŵp garddio therapiwtig “Da i Dyfu”
Rhyngweithio â chleifion
Cynnal a chadw gerddi, cynnal a chadw gwelyau, gweithgareddau tymhorol gan gynnwys hau hadau, torri, plannu ac adnewyddu gwelyau
Darparu lluniaeth