Rydym yn falch o ymuno â sefydliadau ledled y DU i ddathlu Diwrnod Ystadau a Chyfleusterau Gofal Iechyd (#HealthEFMDay), gan gydnabod cyfraniad hanfodol cydweithwyr sy'n helpu i gadw ein gwasanaethau'n ddiogel ac yn rhedeg yn ddidrafferth bob dydd.
Gan weithio ar draws ystod eang o rolau, yn aml y tu ôl i'r llenni, mae timau Ystadau a Chyfleusterau yn chwarae rhan hanfodol mewn gofal cleifion – o gynnal a chadw adeiladau ac offer, i sicrhau'r safonau glendid uchaf, rheoli gwastraff, darparu gwasanaethau arlwyo a chreu amgylcheddau diogel a chroesawgar.
Ar draws CTM, mae eu sgiliau a'u hymroddiad yn helpu i amddiffyn diogelwch cleifion, gwella profiad a chefnogi gwasanaethau rheng flaen i ddarparu gofal o ansawdd uchel.
Cipolwg ar ein staff
Fel rhan o #HealthEFMDay eleni, rydym yn tynnu sylw at rai o'r 1,372 o aelodau staff (10% o'n gweithlu cyfan!) sy'n gwneud gwahaniaeth bob dydd.
Mae straeon staff a rennir ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn amlygu'r ymroddiad, proffesiynoldeb a balchder sy'n bodoli ledled gwasanaethau ystadau a chyfleusterau.
Yn ogystal, os ydych chi'n ymweld ag un o'n safleoedd yfory, cymerwch funud i adael neges yn ein bocs i ddweud diolch a chynnig awgrymiadau.
Enillwyr diweddar Gwobr Seren Cyfleusterau’r Mis
Fel rhan o Ddiwrnod Ystadau a Chyfleusterau, rydym hefyd yn dathlu ein gwobr Seren Cyfleusterau'r Mis – gan gydnabod cydweithwyr sy'n mynd yr ail filltir i gefnogi gofal cleifion, diogelwch a phrofiad ar draws ein safleoedd.
Mae'r enillwyr diweddar yn cynnwys:
Samantha Tantum (Gwasanaethau Cadw Tŷ) – am gadw ardaloedd clinigol yn rhedeg yn llyfn yn dilyn gwaith mawr
Liria Teodoro Cabanatan (Gwasanaethau Cadw Tŷ) – am ei hymateb cyflym i ddigwyddiad mewn cegin ward
Katie Lewis (Rheolwr Cymorth Cyfleusterau) – am fynd y tu hwnt i’r disgwyl yn ystod newid gwasanaeth mawr
Lee Davies (Gwasanaethau Porthorion) – am ei ymroddiad a’i gefnogaeth i dimau ar draws safleoedd
Lindsey Morris (Gwasanaethau Cadw Tŷ) – am fynd y tu hwnt i'w rôl yn gyson
Darren Moses (Swyddog Diogelwch Porthorion) – am gefnogi claf mewn trallod yn dosturiol
Mark Emmanuel (Gwasanaethau Porthorion) – am ei ymateb pwyllog a chadarn i dân posibl ar ward
Jenna Kellar ac Elizabeth Rees (Arlwyo) – am eu meddwl cyflym yn ystod digwyddiad mewn cegin ar ward
Colin Bodenham (Gwasanaethau Porthorion) – am feithrin a chefnogi prentisiaid Project SEARCH
Dim ond cipolwg yw'r cydweithwyr hyn ar y gwaith anhygoel sy'n digwydd ar draws ein timau Ystadau a Chyfleusterau bob dydd.
Enwebwch aelod o staff neu dîm ar gyfer Gwobr Flynyddol Seren
Mae dal amser i enwebu cydweithiwr neu dîm ar gyfer Gwobr Flynyddol Seren.
Mae enwebiadau’n cau yfory (18 Mehefin am 9yb). Gwnewch yn siŵr bod eich un chi wedi'i gyflwyno mewn pryd trwy ein ffurflen enwebu.
 diddordeb mewn rôl o fewn Ystadau a Chyfleusterau yn CTM?
Cymerwch olwg ar ein swyddi gwag diweddaraf.
Yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol CTM, rydym wedi ymrwymo i greu cyfleoedd gyrfa gynhwysol o fewn gwasanaethau Ystadau a Chyfleusterau. Mae yna amrywiaeth o lwybrau hygyrch i'r rolau hyn, gan gynnwys prentisiaethau a rhaglenni interniaeth â chymorth fel Project SEARCH, sy'n helpu pobl o bob cefndir i adeiladu gyrfaoedd gwerth chweil yn y GIG.
Rydym yn hynod falch o'n gweithlu ystadau a chyfleusterau ac yn ddiolchgar am y cyfraniad hanfodol maen nhw'n ei wneud ar draws ein hysbytai a'n gwasanaethau cymunedol.