Rydym yn falch o lansio Gwobrau Blynyddol Seren 2026, gan ddathlu'r bobl a'r timau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion, teuluoedd a chymunedau ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg.
Os ydych chi wedi profi gofal, caredigrwydd neu gefnogaeth ragorol, dyma'ch cyfle i ddweud diolch.
Mae enwebiadau bellach ar agor, a gwahoddir cleifion, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, partneriaid a rhanddeiliaid i gymryd rhan drwy gyflwyno enwebiadau mewn dau gategori arbennig:
Mae Gwobr Dewis y Bobl yn cydnabod unigolyn neu dîm sydd wedi gwneud gwahaniaeth ystyrlon i brofiad cleifion.
Gallwch enwebu rhywun sydd:
Mae'r wobr hon wedi'i llunio'n uniongyrchol gan leisiau'r bobl sy'n defnyddio ac yn profi ein gwasanaethau.
Enillydd 2025 oedd Donna Morgan, Arweinydd Clinigol Galar, a gydnabyddir am ei thosturi eithriadol a'i chefnogaeth ddiysgog i deuluoedd yn ystod eu cyfnodau anoddaf.
Enwyd Sarah Hicks, Bydwraig, yn ail am ei gofal a'i heiriolaeth bersonol rhagorol, yn enwedig wrth gefnogi cleifion niwroamrywiol a hyrwyddo profiadau mamolaeth cynhwysol.
Mae Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn yn dathlu unigolion sy'n rhoi o'u hamser, eu hegni a'u hymrwymiad yn hael i helpu eraill. Mae hyn yn cynnwys gwirfoddolwyr sy'n cefnogi gwasanaethau CTM yn uniongyrchol, gan wella profiad cleifion, ymwelwyr a theuluoedd ac, wedi'i ehangu ar gyfer 2026, staff CTM sy'n gwirfoddoli eu hamser eu hunain y tu allan i'r gwaith yn cefnogi elusennau, grwpiau cymunedol neu fentrau lleol ar draws ardal CTM.
Enillydd y wobr hon yn 2025 oedd Michele Hanson, gwirfoddolwraig yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, a gydnabyddir am ei phresenoldeb trawsnewidiol, ei charedigrwydd a'i hymrwymiad i gleifion, teuluoedd a staff.
Cafodd Tîm Gwirfoddolwyr Good to Grow o’r Gwasanaeth Gofal Lliniarol Therapi Galwedigaethol eu henwi’n ail, a chafodd eu canmol am eu cefnogaeth dosturiol a’u gwaith garddwriaeth therapiwtig sy’n gwella lles a chysylltiad i gleifion a gofalwyr.
Gallwch gyflwyno enwebiad os ydych chi'n:
Dylai aelodau presennol staff CTM gyflwyno eu henwebiad(au) gan ddefnyddio'r wybodaeth a'r ffurflen a ddarparwyd yn uniongyrchol i staff drwy sianeli mewnol CTM, hyd yn oed os ydych chi hefyd yn glaf, yn ofalwr neu'n ddefnyddiwr gwasanaeth.
Does dim angen i chi fod yn arbenigwr nac ysgrifennu unrhyw beth cymhleth - dim ond rhannu beth ddigwyddodd, pwy wnaeth wahaniaeth, a pham ei fod yn bwysig i chi.
Ar ôl eu cyflwyno, caiff enwebiadau eu hystyried gan ein paneli beirniadu yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir yn unig.
Mae cael eich enwebu yn aml yn golygu mwy nag y mae pobl yn ei sylweddoli. Mae'n:
Gall eich geiriau wneud gwahaniaeth parhaol.
Os hoffech chi gael cymorth i lenwi'r ffurflen, os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol, neu os oes gennych chi gwestiynau am y broses enwebu, cysylltwch â ctm.seren.annual.awards@wales.nhs.uk.
Diolch i chi am gymryd yr amser i gydnabod y rhai sy'n gofalu am ein cymunedau ac yn eu cefnogi bob dydd.
Cynhelir Noson Wobrau Blynyddol Seren ddydd Iau 8 Hydref yn The Vale Resort.