Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2026

Y thema ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni (11-17 Mai 2026) yw gweithredu. Dydy ymwybyddiaeth am iechyd meddwl ddim yn ddigon ar ei phen ei hun; mae angen i ni hefyd droi hyn yn weithred, boed hynny'n fawr neu'n fach. Gallai fod yn rhywbeth rydych chi'n ei wneud i chi'ch hun, i rywun arall neu i bob un ohonom. Darllenwch fwy am pam mae angen gweithredu ar gyfer iechyd meddwl da.

Byddwn hefyd yn tynnu sylw at waith anhygoel rhai o'n cydweithwyr iechyd meddwl a'r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud bob dydd wrth gefnogi lles meddyliol pobl.

Yn nes ymlaen yn yr erthygl hon, fe gewch chi fwy o wybodaeth am gael cymorth ar gyfer eich iechyd meddwl chi neu iechyd meddwl rhywun arall.

Dyma Cat, Gweithiwr Cymorth Cymheiriaid

“Rwy’n gweithio fel Gweithiwr Cymorth Cymheiriaid gyda’r Tîm Ymyrraeth Anhwylderau Bwyta i Oedolion yng Nghwm Taf Morgannwg.

Rwy'n defnyddio fy mhrofiad bywyd fy hun i gefnogi pobl sy'n dod i driniaeth, yn ogystal â chefnogi'r tîm rwy'n gweithio gyda nhw.

Un o’r pethau gorau am fy swydd yw gallu cerdded ochr yn ochr â phobl wrth iddynt gymryd y camau cynnar, dewr yn eu hadferiad. Mae hefyd yn rhoi boddhad mawr bod yn rhan o dîm sy'n gwerthfawrogi fy nghyfraniadau ac yn fy annog i rannu fy mhrofiadau, gan ein helpu i ddeall a llunio'r gofal a ddarparwn yn well.”

Dyma Rhianedd, Arweinydd Tîm Dros Dro

“Helo, Rhianedd ydw i ac rwy'n Arweinydd Tîm Dros Dro ar gyfer y Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Rwy'n gweithio gyda thîm bach rwy'n hynod falch ohono, gan gynnwys nyrsys iechyd meddwl, gweithwyr cymorth gofal iechyd arbenigol, ymarferwyr clinigol uwch, seiciatrydd arbenigol a seiciatrydd ymgynghorol.

Yn aml, ni yw'r pwynt cyswllt cyntaf i oedolion hŷn ac rydym yn ein gweld ein hunain fel rhwyd ​​​​ddiogelwch, gan gynnig cefnogaeth i bobl ag unrhyw bryderon iechyd meddwl. Rydym yn gweithio gydag oedolion hŷn sydd yn yr ysbyty neu'n mynychu'r Adran Argyfwng yn Ysbyty Tywysoges Cymru, ac rydym hefyd yn cefnogi cartrefi gofal ledled ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Y peth rwy'n ei garu fwyaf am fy rôl yw cefnogi oedolion hŷn gydag ystod o anghenion iechyd meddwl. Boed rhywun yn byw gyda Dementia neu'n wynebu heriau eraill, rwy'n gwerthfawrogi gallu cymryd yr amser i'w ddeall yn llawn a chynnig cymorth personol sy'n canolbwyntio ar y person cyfan.

Dyma Kathryn, Arweinydd Clinigol a Datblygu

Fy enw i yw Kathryn Rich, a fi yw’r Arweinydd Clinigol a Datblygu ar gyfer GIG 111 Pwyso 2, ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl brys. Rwy'n teimlo'n eithriadol o ffodus bod mewn rôl lle gallaf i gefnogi pobl yn ystod rhai o'r adegau mwyaf anodd a bregus yn eu bywydau.

Y peth sy'n golygu'r mwyaf i mi yw bod yno i eraill – boed hynny y bobl sy'n estyn allan mewn argyfwng, neu'r staff rwy'n gweithio gyda nhw bob dydd. Cefnogi fy nhîm drwy'r uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau yw rhywbeth rwy'n ei werthfawrogi'n fawr. Rwyf eisiau iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu clywed, eu cefnogi, ac yn hyderus yn y gwaith maen nhw'n ei wneud.

Y rhan fwyaf gwerthfawr o fy rôl yw gweld y gwahaniaeth y gall gofal a thrugaredd ei wneud. Mae clywed gan unigolion sy’n gwella ac yn symud ymlaen yn eu bywydau yn brofiad dwfn iawn i fi, ac mae’n fy atgoffa bob dydd pam mae’r gwaith hwn mor bwysig.”

Dyma Joanne, Ymarferydd Lles

“Joanne Hollyman ydw i, ac rwy’n Ymarferydd Lles o fewn Gwasanaeth Iechyd Meddwl Brys 111 Pwyso 2 y GIG.

Mae fy rôl yn cynnwys cefnogi pobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl. Gall hyn gynnwys gwrando ar bryderon y person, a helpu nhw i ddod o hyd i'r cymorth iawn ar yr adeg iawn.

Gall y rôl fod yn heriol iawn, ond mae hefyd yn hynod o werthfawr. Rwy'n caru fy swydd oherwydd mae gen i'r cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd unigolyn a'i gefnogi ar adeg pan mae angen cymorth arno fwyaf.

Cymorth i'ch iechyd meddwl

Rydyn ni'n cydnabod bod cysylltiad agors rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl , a bod pryderon iechyd parhaus yn gallu cael effaith go iawn ar sut rydym yn teimlon o ran ein hemosiynau.

Os ydych yn profi symptomau sy'n effeithio ar eich lles, efallai y bydd ein gwybodaeth Aros yn Iach o gymorth i chi, gyda chanllawiau ymarferol i gefnogi eich lles emosiynol tra byddwch yn aros am ofal.

Darllenwch wybodaeth gyffredinol am gadw’n iach tra byddwch yn aros.

Cefnogaeth iechyd meddwl plant a phobl ifanc

Mae gwybodaeth i bobl dan 18 oed ar ein tudalennau Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.

Cefnogaeth iechyd meddwl oedolion

Mae ein Gwasanaeth Iechyd Meddwl yn darparu amrywiaeth o wasanaethau sylfaenol, cymunedol a chleifion mewnol i oedolion a phobl hŷn ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Dysgwch fwy o wybodaeth am gael mynediad at gefnogaeth a chyfleoedd hunangymorth, gan gynnwys ein tudalen wedi’i hailffresynu gyda llinellau cymorth iechyd meddwl, sefydliadau a elusennau i gefnogi iechyd meddwl a lles.

Cymorth brys i iechyd meddwl a lles nad yw'n bygwth bywyd

Gallwch ffonio GIG 111 a dewis opsiwn 2 os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod angen cymorth a chyngor iechyd meddwl a lles brys, sydd ddim yn bygwth bywyd.

Mae'r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oedran, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos er mwyn sicrhau bod y rhai sydd angen cymorth yn gallu cael mynediad iddo pan fydd ei angen arnyn nhw fwyaf.

Mae modd ffonio Iechyd Meddwl 111 (pwyswch 2) am ddim, o ffôn symudol (hyd yn oed pan nad oes credyd ar ôl gan y galwr) neu o linell dir.

Byddwch yn cael cefnogaeth gan weithiwr iechyd meddwl hyfforddedig yn eich ardal.

Mewn sefyllfaoedd sy’n bygwth bywyd, y cyngor bob amser yw ffonio 999 neu fynd i'r adran argyfwng agosaf.

14/05/2026