Wrth i Wythnos y Lluoedd Arfog gael ei anrhydeddu ledled y DU, nid yn unig mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn talu parch i bawb sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu - gan gynnwys cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a'u teuluoedd, ond hefyd yn amlygu'r gefnogaeth barhaus y mae llawer o gyn-filwyr ei hangen yn hir ar ôl gadael y fyddin.
O gefnogaeth gan gymheiriaid a chyfeillgarwch i gymorth ymarferol i lywio gofal iechyd, mae canolfannau cyn-filwyr a gwasanaethau cymunedol yn darparu llinell achub hanfodol.
Straeon personol gan gyn-filwyr CTM
O deimlo'n unig ac yn ei chael hi'n anodd ar ôl gwasanaethu, dyma ddwy stori bersonol gan gyn-filwyr CTM a ddaeth o hyd i gefnogaeth, cysylltiad a gobaith a newidiodd eu bywydau trwy ganolfannau cyn-filwyr lleol - gan brofi y gall y cymorth cywir ar yr amser cywir ailadeiladu bywydau.
Hysbysiad cynnwys: Gall y profiadau a rennir yma beri gofid; os ydych yn aelod o gymuned y Lluoedd Arfog neu'n aelod o'r teulu ac yn teimlo eich bod wedi cael eich effeithio, cofiwch fod cymorth ar gael ac nad ydych ar eich pen eich hun.
“Roeddwn i eisoes yn teimlo’n gartrefol”
I un cyn-filwr anhysbys, roedd bywyd ar ôl gwasanaethu wedi dod â heriau annisgwyl.
“Pan fyddwch chi'n dod allan o'r lluoedd, rydych chi'n cael eich gadael ar eich pen eich hun i ryw raddau,” meddai.
Blynyddoedd ar ôl gadael, dechreuodd brofi hunllefau ailadroddus, gorbryder a phyliau o banig a ddeallwyd yn ddiweddarach eu bod yn gysylltiedig ag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD). Profodd ceisio cymorth yn anodd, gydag amseroedd aros hir yn ychwanegu at y pwysau.
Dim ond ar ôl iddo gael ei hyflwyno i ganolfan leol i gyn-filwyr trwy wasanaethau yn Ysbyty Dewi Sant y dechreuodd pethau newid.
“Cyrhaeddais y drws ac roeddwn i’n bryderus iawn… ond roeddwn i eisoes yn teimlo’n gartrefol”
Trwy Valley Veterans, fe wnaeth ddod o hyd i rywbeth yr oedd wedi bod yn ei golli am flynyddoedd: dealltwriaeth, profiad a rennir a chysylltiad.
“Mae’r fyddin yn frawdoliaeth. Gallwch chi siarad a byddan nhw'n deall… mae fel bod yn ôl gyda'r lluoedd arfog.”
Nawr, ar ôl mwy na blwyddyn o fynychu'r ganolfan,, mae’n dweud bod agor nid yn unig wedi helpu ei iechyd meddwl ond hefyd wedi cryfhau perthnasoedd gartref.
“Dywedais bopeth wrth fy ngwraig… mae hi’n deall nawr.”
Er ei god yn cydnabod bod taith o'i flaen o hyd, mae’n dweud bod y gefnogaeth o'i gwmpas wedi gwneud gwahaniaeth sydd wedi newid ei fywyd.
“Mae gennych chi ddiwrnodau gwael a diwrnodau da… ond rwy’n dod ymlaen.”
“Mae’n dda bod yn fyw”
I Dean, cyn-filwr sy'n mynychu canolfannau ym Merthyr a'r Rhondda, mae effaith y gwasanaethau cymorth wedi achub ei fywyd.
Cyn cael help, roedd Dean yn cael trafferth gydag iselder, camddefnyddio alcohol ac Anhwylder Straen Wedi Trawma heb ei ddiagnosio. Roedd ei fywyd personol yn chwalu, ac fe gyrhaeddodd bwynt lle nad oedd am barhau mwyach.
"Daeth i bwynt lle nad oeddwn i eisiau bod o gwmpas mwyach," meddai.
Ar ôl cael trafferth i gael cymorth i ddechrau, cafodd ei gysylltu yn y pen draw â Blind Veterans UK - trobwynt y mae'n ei briodoli am achub ei fywyd.
“Fe wnaethon nhw fy nhrawsnewid… mae'n fywyd hollol wahanol nawr,” meddai. “Mae’n dda bod yn fyw diolch i’r bobl hyn.”
Drwy rwydweithiau o gyn-filwyr a chanolfannau lleol, ailadeiladodd Dean ei hyder a'i ymdeimlad o bwrpas. Mae bellach yn gwirfoddoli, yn rhedeg clwb cinio i gyn-filwyr ac yn cefnogi eraill a allai fod yn teimlo'n ynysig.
"Mae’r canolfannau hyn yn fendith," meddai. Gallwch siarad â phobl sy’n deall. Nid dynion mawr caled yw milwyr — pobl ydyn nhw, ac mae angen iddyn nhw siarad.”
Mae Dean hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cysylltu ag eraill, gan gofio sut mae ef a chyn-filwyr eraill yn gwneud pwynt o fynd at unrhyw un sy'n eistedd ar ei ben ei hun.
"Unwaith y byddwch chi'n eu cael nhw i siarad, maen nhw'n dod allan o'u hunain."
Dod â chefnogaeth yn nes at adref
Fel rhan o weithgareddau Wythnos y Lluoedd Arfog, bydd gennym stondinau gwybodaeth ar gael ar draws Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty’r Tywysog Siarl, Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Cymunedol Cwm Cynon (ar gyfer cleifion, perthnasau a gofalwyr sy’n ymweld)
Dyddiad: Dydd Iau 25 Mehefin
Amser: 10yb - 3yp.
Bydd staff, partneriaid trydydd sector lleol a sawl aelod o'n canolfannau cyn-filwyr wrth law i:
Er y gall y newid o fywyd milwrol i fywyd sifil fod yn heriol, gall y gefnogaeth gywir wneud gwahaniaeth mawr.
Gall rhoi gwybod i feddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol am wasanaeth milwrol helpu i sicrhau mynediad at ofal priodol a chymorth arbenigol.
Mae gennym dros 15 000 o gyn-filwyr yn byw ar draws Cwm Taf Morgannwg. Yr Wythnos Lluoedd Arfog hon, rydym am i'n cyn-filwyr deimlo'n obeithiol wrth ddweud “Rwyf wedi gwasanaethu” gan nad ydych chi byth ar eich pen eich hun.
Fel y dywedodd ein cyn-filwyr:
Fel y dywedodd un cyn-filwr yn syml ... “Gwna fe. Dere i mewn.”
Darganfyddwch fwy ar ein gwefan, lle gallwch gael mynediad at adnoddau a gwybodaeth wedi’u cynllunio i gefnogi anghenion gofal iechyd cyn-filwyr.
Mae Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg yn cefnogi'r gwaith hwn fel rhan o'i hymrwymiad i wella profiadau cleifion, staff a chymunedau, gan helpu i ariannu mentrau sy'n mynd y tu hwnt i ddarpariaeth graidd y GIG. Dysgwch fwy am Elusen GIG CTM yma - Ein Heffaith - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
22/06/2026