Wrth i ni nodi Wythnos y Lluoedd Arfog a myfyrio ar yr aberthau a wnaed gan y rhai sy'n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn anrhydeddu ac yn dathlu gwasanaeth a chyfraniad ein cymuned Lluoedd Arfog, gan gynnwys personél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a'u teuluoedd.
Fel sefydliad sy'n gyfeillgar i gyn-filwyr, a thrwy ein hymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog a chyflawni'r Wobr Arian yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS), rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y rhai sy'n gwasanaethu, neu sydd wedi gwasanaethu, yn cael eu trin â thegwch, parch a dealltwriaeth, a'u bod yn gallu cael mynediad at y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Rydym yn falch o gydweithio â chanolfannau cyn-filwyr lleol ar draws ein rhanbarth, ochr yn ochr â'n tri Chyngor Gwirfoddol Cymunedol - BAVO, VAMT ac Interlink RCT, i ddod â chefnogaeth y lluoedd arfog yn agosach at ein cymunedau.
Mae’r gwaith partneriaeth hwn hefyd yn cael ei gefnogi gan Elusen GIG CTM, fel rhan o’i hymrwymiad i helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion, teuluoedd, staff y GIG a chymunedau ar draws Cwm Taf Morgannwg.