Wrth i ni nodi Wythnos y Lluoedd Arfog a myfyrio ar yr aberthau a wnaed gan y rhai sy'n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn anrhydeddu ac yn dathlu gwasanaeth a chyfraniad ein cymuned Lluoedd Arfog, gan gynnwys personél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a'u teuluoedd.
Fel sefydliad sy'n gyfeillgar i gyn-filwyr, a thrwy ein hymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog a chyflawni'r Wobr Arian yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS), rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y rhai sy'n gwasanaethu, neu sydd wedi gwasanaethu, yn cael eu trin â thegwch, parch a dealltwriaeth, a'u bod yn gallu cael mynediad at y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Yr wythnos hon, rydym yn falch o gydweithio â chanolfannau cyn-filwyr lleol ar draws ein rhanbarth, ochr yn ochr â'n tri Chyngor Gwirfoddol Cymunedol - BAVO, VAMT ac Interlink RCT, i ddod â chefnogaeth y lluoedd arfog yn agosach at ein cymunedau.
Siarad am faterion iechyd
Mae'r wythnos hon yn rhoi pwyslais arbennig ar annog sgyrsiau agored am iechyd a lles o fewn cymuned y Lluoedd Arfog.
Rydym am i bob cyn-filwr deimlo'n hyderus wrth ddweud: “Rydw i wedi gwasanaethu”
Gallai rhoi gwybod i'ch meddyg teulu eich bod yn gyn-filwr wneud gwahaniaeth go iawn i'ch gofal iechyd. Gallai helpu i sicrhau y gallwch gael mynediad at wasanaethau a chymorth sydd wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer cyn-filwyr.
Stondinau gwybodaeth ysbyty
Os ydych chi'n glaf ac yn ymweld â'n tair prif safle ysbyty ddydd Iau 25 Mehefin - Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty'r Tywysog Siarl, Ysbyty Tywysoges Cymru, neu Ysbyty Cymunedol Cwm Cynon, chwiliwch am stondinau gwybodaeth yn y prif fynedfeydd rhwng 10:00yb - 3:00yp.
Bydd ein timau, ochr yn ochr â sefydliadau partner, yno i:
P'un a ydych chi'n gyn-filwr, yn aelod o'r teulu, yn ofalwr neu os ydych chi eisiau dysgu mwy, rydym yn eich annog i gael sgwrs gyda'n timau.
Mae Partneriaeth Y Lluoedd Arfog CTM yn cael ei chefnogi gan Elusen GIG CTM, fel rhan o'i hymrwymiad i helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i gleifion, teuluoedd, staff y GIG a chymunedau ledled Cwm Taf Morgannwg. Drwy roddion lleol a chefnogaeth gymunedol, mae'r Elusen yn helpu i ariannu gwelliannau ymarferol sy'n mynd y tu hwnt i gyllid y GIG. Dysgwch fwy am y gwaith y mae Elusen GIG CTM yn ei gefnogi.
Gyda'n gilydd, gadewch i ni sicrhau nad oes unrhyw un sydd wedi gwasanaethu yn teimlo bod yn rhaid iddynt wynebu heriau iechyd ar eu pen eu hunain.
#IechydLluoeddArfogCTM
23/06/2026