Neidio i'r prif gynnwy

WISE yn barod i fynd

WISE yn barod i fynd

Cyflwyno gwasanaeth newydd i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg – Gwasanaeth Gwella Lles (WISE)

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn falch o gyhoeddi lansiad swyddogol y Gwasanaeth Gwella Lles (WISE), fydd yn darparu ymyriadau anfeddygol i wella iechyd a lles pobl tra eu bod nhw ar restrau aros penodol.

Mae'r gwasanaeth yn rhan o Raglen Gofal wedi ei Gynllunio GIG Cymru ar gyfer Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Mae WISE yn defnyddio meddygaeth ffordd o fyw sy'n seiliedig ar dystiolaeth, lle mae’r gwasanaeth yn seiliedig ar rymuso cleifion ac yn hybu newid mewn ymddygiad drwy dechnegau sy'n canolbwyntio ar yr unigolion, er mwyn gwella eu lles meddyliol a chorfforol.

Drwy raglen addysg barhaus, nod WISE yw galluogi cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio ato i ddeall yn well beth yw achosion sylfaenol eu cyflyrau meddygol cyfredol, a dilyn ffyrdd o fyw sy'n gwella eu hiechyd hirdymor ac yn sicrhau gwell ansawdd bywyd gyda llai o faich symptomau.

Mae'r ethos hwn yn cyd-fynd â strategaeth 2030 y Bwrdd Iechyd i helpu cleifion i fanteisio ar nifer o gyfleoedd i wella eu canlyniadau iechyd corfforol a meddyliol, rhoi hwb i’w lles a lleihau achosion o glefydau sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw ymhlith y boblogaeth ranbarthol, fel amddifadedd, anghydraddoldeb iechyd ac arwahanu cymdeithasol.

I ddechrau, bydd modd i Dîm WISE roi cymorth i gleifion gyda'r canlynol:

  • Poen gronig
  • Syndrom Coluddyn Llidus (IBS)
  • Lles emosiynol – straen, gorbryder, Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD)
  • Cardioleg – pwysedd gwaed uchel
  • Cyflyrau anadlol

Mae modd i gleifion gael eu hatgyfeirio gan eu hymgynghorydd, eu meddygfa, eu gweithwyr iechyd proffesiynol, eu hunain neu eu cysylltydd cymdeithasol. Dros y misoedd nesaf, bydd y gwasanaeth hefyd yn creu rhagor o gyfleoedd i gynnig y cymorth allweddol hwn ar gyfer cyflyrau eraill.

Meddai Liza Thomas-Emrus, sy’n Glinigwr Arweiniol gyda WISE: “Ein hamcan yn WISE yw canolbwyntio ar beth sy'n wirioneddol bwysig i bob claf yn unigol. Byddwn ni’n gwneud hyn trwy fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau sydd gyda nhw, er mwyn gwneud dewisiadau llwyddiannus i fyw bywyd iach, ac yna trwy greu'r cyfleoedd i ddarparu gofal holistaidd sy'n cael effaith arnyn nhw. Rydyn ni am i gleifion deimlo eu bod nhw’n cael eu trin fel unigolion, ac nid fel symptom neu glefyd.

“Mae pawb yn gwybod pa mor anodd yw newid ffordd o fyw. Mae’n gallu ymddangos yn syml, ond dydy hynny ddim yn golygu ei fod yn hawdd. Bydd hyfforddwr lles gyda chleifion i'w helpu i roi newidiadau parhaus ar waith er mwyn gwella ansawdd eu bywyd.

“Mae hyn yn gyfle cyffrous i ni yn WISE gan ein bod ni wedi neilltuo'r amser i ganolbwyntio'n fwy ar y ffactorau yn ffyrdd pobl o fyw sydd wrth wraidd cyflyrau mwyaf cronig ein rhanbarth. Mae cleifion WISE a'r Bwrdd Iechyd i gyd ar eu hennill.”

Hyfforddwyr lles

Mae modd addasu graddfa gwasanaeth WISE a’i ddyblygu, a bydd yn cael ei ddarparu drwy hyfforddwyr lles helaeth eu hyfforddiant sy’n cael eu cyflogi gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Bydd y tîm gwirfoddol o’r Bwrdd Iechyd yn helpu i ddarparu'r gwasanaeth, a byddan nhw’n allweddol wrth gyflwyno’r gwasanaeth a datblygu cymorth cymar i gymar.

Bydd pob hyfforddwr lles a gwirfoddolwr yn arwain grwpiau o hyd at 20 o gleifion drwy raglen strwythuredig sy'n canolbwyntio ar feysydd fel maeth, symud yn gorfforol, lleihau straen, cysgu’n well a lleihau unrhyw symptomau allai effeithio ar ansawdd bywyd o ddydd i ddydd.

Yn rhan o’r gwasanaeth, bydd cydlynydd lles cymunedol yn darparu gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol a bydd tri meddyg ffordd o fyw ar gael hefyd.

Adnoddau iechyd digidol

Erbyn hyn, mae offer digidol yn cael eu defnyddio'n helaeth i gyd-fynd â gofal iechyd wyneb yn wyneb, felly mae WISE wedi buddsoddi mewn datblygu gwefan hunan-reoli fydd yn cyflwyno'r prif gategorïau o ran meddygaeth ffordd o fyw holistaidd.

Bydd y wefan yn cynnwys dolenni i wefannau dibynadwy eraill, yn cynnig adnoddau iechyd i’w lawrlwytho, ac yn cynnwys erthyglau blog rheolaidd a phodlediadau sy'n trafod pynciau meddygaeth ffordd o fyw, a hynny gan ddetholiad o arbenigwyr ac ymarferwyr iechyd.

Bydd cleifion sy'n cael eu hatgyfeirio at WISE hefyd yn cael mynediad personol i amryw apiau presgripsiynu cymdeithasol at ofal iechyd digidol, yn ogystal â llyfrgelloedd iechyd digidol.

Adnodd cyffrous i’r staff ac i gleifion yw'r Sefydliad Adolygu Apiau Gofal ac Iechyd (ORCHA), sef cwmni blaenllaw ym maes adolygu a dosbarthu apiau iechyd. Yno, mae gan WISE ei siop ei hun sy'n cynnig apiau ar gyfer newid ymddygiad a chymorth.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn defnyddio Elemental Software. Mae technoleg arobryn y cwmni’n cael ei defnyddio’n bennaf mewn rhaglenni iechyd cymunedol ac ymyriadau gofal iechyd, ac mae'r feddalwedd hon yn helpu WISE i ddeall cleifion a'u canlyniadau mewn ffordd unigryw.

Meddai Gillian Day, sef Rheolwr Rhaglen Iechyd a Lles WISE:

 “Mae ein tîm yn ystyried cyfleoedd digidol, fel apiau iechyd a gofal, yn gam hanfodol ar y daith tuag at sicrhau gofal iechyd sy'n canolbwyntio’n fwy ar gleifion ac sy'n cael ei reoli gan y cleifion eu hunain. Dyma rywbeth sy'n agos at ein calonnau yn WISE, wrth i ni sicrhau hefyd nad yw cleifion yn cael eu hynysu'n ddigidol.

“Bydd yr arbenigwyr iechyd digidol yn ORCHA ac Elemental yn ein helpu i oresgyn yr heriau sy’n ein hwynebu yn ein rhanbarth ar ôl y pandemig ac, o ystyried y dyfodol, byddan nhw’n darparu gofal iechyd amgen i'n poblogaeth, wrth i’w disgwyliad oes gynyddu ac wrth iddi ddatblygu mwy o gyflyrau hirdymor.

Partneriaeth gyda’r trydydd sector

Bydd WISE yn gweithio gyda'r gymuned drwy ddetholiad o sefydliadau yn y trydydd sector a busnesau lleol i ddarparu amrywiaeth o weithdai sy'n canolbwyntio ar gleifion, er mwyn annog cleifion i fyw’n iachach.

Bydd y rhain yn cynnwys dosbarthiadau coginio iach, gweithdai lleihau straen, sesiynau gyda dietegydd sy’n arbenigo yn y coluddyn, rhaglenni Fitbit a llawer mwy.

Mae un sefydliad lleol o'r fath yng Nghymru, sef Get Fit Wales, yn cymell eu cwsmeriaid i gerdded nifer benodol o gamau bob dydd. Unwaith iddyn nhw gyflawni eu targedau, byddan nhw’n cael talebau i’w gwario mewn mannau yn eu cymuned leol, fel siopau ffrwythau a llysiau, campfeydd, siopau trin gwallt neu sinemâu.

Mae WISE hefyd wedi partneru ag Adran Celfyddydau a Pherfformio Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, a bydd yn cynnig cyfres o weithdai celf, crefft a pherfformio unigryw gydag artistiaid lleol o Gymru.

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451/01685 351 444
Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE