Neidio i'r prif gynnwy

Pobl Ifanc Cymwys i Dderbyn Brechiad MenB Am Ddim Cyn y Flwyddyn Academaidd Newydd

Cyn dechrau'r flwyddyn academaidd newydd, mae pobl ifanc cymwys yng Nghymru yn cael cynnig brechiad am ddim yn erbyn clefyd meningococol B (MenB), fel rhan o raglen gyfyngedig ei hyd a gyflwynwyd mewn ymateb i'r achosion diweddar o'r clefyd ledled y DU.

Dyma’r bobl sy’n gymwys i gael y brechiad:

  • Y rhai rhwng 17 a 18 oed (ganwyd rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008)
  • Y rhai sy'n troi'n 25 oed ar neu ar ôl 21/07/2026 (ganwyd ar neu ar ôl 21/07/2001) a fydd yn dechrau addysg uwch israddedig neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf yr hydref hwn

Bydd y brechlyn yn cael ei gynnig mewn rhaglen dau ddos. Bydd pobl ifanc 17 ac 18 oed yn derbyn llythyr gwahoddiad gennym ni, yn eu gwahodd i fynychu am eu dos cyntaf o'r brechlyn rhwng 21 a 31 Gorffennaf 2026. Bydd y brechiadau’n cael eu rhoi yn un o'n chwe Canolfan Frechu Cymunedol, a bydd pobl ifanc yn cael eu gwahodd i fynychu ar amser apwyntiad penodedig. Mae’n bwysig iawn eich bod yn mynychu eich apwyntiad brechiad neu’n rhoi gwybod i ni os na allwch ddod er mwyn i ni allu trefnu amser arall i chi.

Gallwch gysylltu â’r  Gwasanaeth Brechu ac Imiwneiddio, rhwng 9yb – 5yp, Dydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) drwy ffôn neu e-bost:

Ffôn: 01685 726464
E-bost: ctm.vaccinationenquiries@wales.nhs.uk

I'r bobl ifanc hynny sy'n troi'n 25 ar neu ar ôl 21/07/2026 a fydd yn dechrau addysg uwch israddedig neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf yr hydref hwn, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol, o 1 Awst i 17 Awst 2026, bydd apwyntiadau brechiad cerdded-i-mewn ar gael.

O'r dyddiad hwn, byddwch yn gallu cerdded i mewn i gael eich brechiad yn un o'n chwe Canolfan Frechu Cymunedol i dderbyn eich dos cyntaf o'ch brechlyn MenB cyn i'r flwyddyn academaidd gychwyn ym mis Medi.

Pan fyddwch chi'n mynychu, dewch â'ch llythyr cynnig prifysgol neu goleg a phrawf adnabod fel y gallwn ni roi'r brechlyn. Gall y llythyr cynnig swyddogol gan eich prifysgol/coleg dewisol fod yn e-bost/sgrinlun gan eich prifysgol neu Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau (UCAS).

03/07/2026