Neidio i'r prif gynnwy

Plannu coed er lles

Ddydd Mawrth, 15 Chwefror 2022, bydd cyfres o ddigwyddiadau plannu coed yn dechrau ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. 

Mae ein rhwydwaith CTM Gwyrdd yn cefnogi’r gwaith o blannu 85 coed ar draws ein 22 safle sy’n gysylltiedig â Chanopi’r Frenhines gyda choed o goedwigoedd y GIG. Mae hyn yn rhan o addewid ehangach GIG Cymru i gefnogi gwaith Canopi’r Frenhines, ac mae pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru wedi ymrwymo i blannu coed mewn modd cynaliadwy.

Yn rhan o’r fenter hon, bydd y Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda chleifion, partneriaid cymunedol a gwirfoddolwyr sy’n awyddus i’n helpu ni i greu mannau gwyrdd ar gyfer lles.  Yn ogystal, mae hyn yn amlygu ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio, a’r angen i wrthbwyso ein hallyriadau carbon drwy ddulliau sydd o fantais i gleifion ac i’r blaned.

Fel rhan o fenter Canopi’r Frenhines, byddwn yn ymuno â rhwydwaith o brosiectau a sefydliadau cymunedol ledled y DU, ‘Plannu coeden ar gyfer y Jiwbilî’. Heb os, mae pob un ohonyn nhw’n defnyddio’r cyfle hwn i hyrwyddo eu hymrwymiad at gynaliadwyedd. Unwaith bydd y coed wedi’u plannu, byddan nhw’n cael eu hychwanegu at fap y DU o Goed Canopi’r Frenhines.

Bydd y coed sydd wedi’u darparu gan goedwigoedd y GIG hefyd yn rhan o fenter ehangach y DU, wedi’i chydlynu gan y Ganolfan ar gyfer Gofal iechyd Cynaliadwy, sy'n anelu at wneud y mwyaf o fanteision yr arferion amgylcheddol ar gyfer iechyd a lles.

Dywedodd Linda Prosser, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid;

“Dyma amser gwych i ni blannu’r coed hyn, gan nodi ein hymrwymiad i dyfu ac aeddfedu i fod yn Fwrdd Iechyd gwyrddach, sy’n fwy cyfrifol yn amgylcheddol. Does dim modd i mi fod yn fwy balch, rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid cymunedol a gwirfoddolwyr i gynorthwyo â’r gwaith o blannu’r coed. O ganlyniad, bydd yn dangos pa mor bwysig yw cydweithio i leihau ein hôl troed carbon, creu mannau gwyrdd ar gyfer lles, a chynnal ein dyfodol.

“Mae’n bosibl bod plannu coed yn ymddangos fel cam bach mewn darlun llawer mwy, ond pan fyddwch chi'n dod â’r camau hyn at ei gilydd, rydyn ni'n dangos, ar y cyd, y gallwn ni i gyd helpu i wella'r ffordd rydyn ni'n gofalu am ein pobl a'n planed'.

Gallwch ddarllen rhagor am fenter Gwyrdd CTM, a gafodd ei lansio yn ôl ym mis Hydref 2021 yma.