Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaid CTM ar Waith: Datblygu Cymunedau Iachach Gyda'n Gilydd

Mae dros 20 o bartneriaid cymunedol o bob rhan o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghwm Taf Morgannwg yn cydweithio i ystyried ble y gellir ffurfio partneriaethau newydd i ddiwallu anghenion iechyd a lles pobl yn well; o gostau byw a chymorth tai i brofedigaeth a llwybrau at waith.

Daeth yr 'ymarfer y gymuned' at ei gilydd yn ystod mis Mawrth 2022 yn dilyn lansio CTM2030: Ein Hiechyd, Ei’n Dyfodol a hwylustod cyfyngiadau COVID. 

Mae'r grŵp yn llywio mynediad pobl at wasanaethau gofal a chymorth ac yn edrych ar sut y gall sefydliadau a phartneriaid strategol ymuno â rhaglenni cymunedol lleol, cymryd rhan mewn rhwydweithiau a grwpiau a chydweithio i wneud y defnydd mwyaf o fannau cymunedol i helpu pobl i fyw bywydau hapus ac iach.  

Dywedodd Linda Prosser, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid BIP CTM:

“Mae'n wych gweithio gyda chymaint o amrywiaeth o weithwyr proffesiynol ac arweinwyr cymunedol. Rydyn ni’n gweithio’n greadigol, ar draws sectorau a ffiniau daearyddol, i roi’r cyfle gorau i bobl deimlo’n iachach ac yn hapusach yn eu bywydau bob dydd. Rydyn ni’n gwybod eisoes o’r adborth rydyn ni wedi’i gael gan y gymuned fod rhai o’n partneriaethau eisoes yn newid bywydau. Mae'n amser cyffrous ar gyfer gwaith partneriaeth rhanbarthol yn CTM!

“Rydyn ni’n ffurfio partneriaethau newydd yn barhaus i greu gwell gofal iechyd a chymorth lles i bobl CTM. Roedd ein sesiwn olaf yn cynnwys partneriaeth newydd â Dŵr Cymru a roddodd wybodaeth werthfawr am opsiynau cymorth costau byw.”    

Dyma rai enghreifftiau o’r ffordd mae gweithio mewn partneriaeth yn cefnogi pobl yn CTM: 

 

Profedigaeth, Colled a Galar

Rydyn ni wedi sefydlu rhaglen newydd mewn partneriaeth â'r Lighthouse Project yn Nhonyrefail i gefnogi pobl y mae trawma wedi effeithio arnyn nhw trwy ddefnyddio celfyddydau creadigol. Am fwy o fanylion e-bostiwch Wendy Evans neu Rachel Heycock.

 

Gwasanaethau a Chymorth Iechyd Meddwl

Rydyn ni’n datblygu partneriaethau agosach â phobl sydd â phrofiad byw o ddementia i lywio amgylcheddau sy'n ystyriol o ddementia.  Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Lleisiau Dementia i wneud gwelliannau i'n hamgylcheddau clinigol. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM i edrych ar ddatblygu llwybr cadarn ar gyfer Asesu Cof.

 

Iechyd Meddwl Merched

Yn fuan, byddwn ni’n cynnal grŵp ffocws i ferched mewn partneriaeth ag un o'n rhaglenni cymunedol er mwyn deall yn well anghenion iechyd meddwl a lles merched ar draws ein rhanbarth; o'n cenhedlaeth iau i'n poblogaeth hŷn. Manylion pellach yn dod yn fuan.

Rydyn ni hefyd yn ymgysylltu'n well â phlant a phobl ifanc ynghylch eu hanghenion iechyd meddwl, yn ogystal â chlywed lleisiau rhieni a gofalwyr i helpu i lansio Siarter Plant newydd ar gyfer CTM.

 

Pwysau Iach

Trwy ein grŵp, rydyn ni’n mynd i'r afael ag un o'r heriau mwyaf i iechyd yn CTM - rheoli pwysau iach. Un maes ffocws yw sut y gall ein hamgylcheddau lleol ein cefnogi, neu sut y gallan nhw o bosibl fod yn rhwystr i wneud newidiadau pwysig i ffyrdd o fyw.

Gwnaeth y grŵp gyfarfod ddiwethaf ar 20 Ionawr yn Sefydliad Gellideg Merthyr Tudful. Mae ein sesiwn nesaf wedi ei threfnu ar gyfer y gwanwyn (manylion i ddilyn).

 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. 

Anfonwch e-bost i: CTM.OurHealthOurFuture@wales.nhs.uk

Ffurfiwyd y grŵp yn ystod mis Mawrth 2022 yn dilyn lansio CTM2030:  Ein Hiechyd, Ein Dyfodol ac ar ôl i gyfyngiadau COVID gael eu llacio.

Ymunwch â'r sgwrs - #DatblyguCymunedauIachachGydanGilydd

 

 

01/02/2023