Mae uned cemotherapi Macmillan, gafodd ei hadeiladu gan roddion hael y cyhoedd, yn dathlu 10 mlynedd ers iddi agor ei drysau.
Agorodd Uned Cemotherapi Macmillan yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful ei drysau ar 4 Tachwedd 2010 ar ôl i’r gymuned leol godi swm anhygoel o £1 filiwn i Gymorth Canser Macmillan er mwyn ei hadeiladu.
Rhoddodd yr elusen a Llywodraeth Cymru £400,000 ychwanegol i droi’r uned yn realiti. Roedd hyn yn golygu bod cannoedd o bobl yn gallu cael eu cemotherapi yn agosach at eu cartref yn hytrach na gorfod teithio i Ganolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd.
Ers agor ei drysau, mae mwy na 1,820 o bobl wedi dod i’r uned.
Cafodd yr uned ei hagor gan gyflwynydd teledu’r BBC, Siân Lloyd, a chafodd y staff a chleifion gipolwg arni yn gyntaf cyn i’r uned ddechrau darparu triniaeth.
Dim ond 21 oed oedd Annmarie Bowen o Abertyswg pan gafodd hi gemotherapi yn yr uned ar gyfer canser y fron ychydig fisoedd ar ôl i’r uned agor.
Meddai Annmarie, sy’n 31 erbyn hyn ac yn fam i ddau o blant: “Agorodd Uned Macmillan ddim ond ychydig o fisoedd cyn i mi gael diagnosis. Dwi mor ddiolchgar i mi allu cael fy nhriniaeth yno am sawl rheswm.
“Yn ogystal â sioc a gofid y diagnosis, byddai taith hir i gael fy nghemotherapi wedi achosi hyd yn oed fwy o straen, gan y byddwn i’n myfyrio ac yn poeni’n fwy am fy nhriniaeth, nodwyddau a phopeth arall yn ystod y daith.
“Taith o 10 munud oedd hi felly doedd dim llawer o gyfle i mi boeni’n ormodol.
“Roedd hynny’n golygu doedd y daith adref ddim mor hir chwaith.
“Ar ôl sesiwn ddwys o gemotherapi, byddwn i’n teimlo mor flinedig, felly ar ôl taith fer, byddwn i’n gallu mynd adref, mynd i’r gwely ac ymlacio yng nghysur fy nghartref.
“Byddai fy mam yn mynd â fi ac yn eistedd gyda fi wrth i mi gael y driniaeth angenrheidiol. Felly, doeddwn i ddim yn teimlo mor euog ag y byddwn i am ei bod hi allan o’r tŷ am oriau ac yn gorfod gyrru’n hirach, oherwydd roedd hi’n gofidio hefyd.”
Cafodd Suzanne Rees, sy’n fam o Ferthyr Tudful, driniaeth yn yr uned pan gafodd hi ddiagnosis o ganser yn 2014 pan oedd hi’n 37 oed.
Meddai hi: “Roedd gallu cael y driniaeth yn lleol yn lleddfu’r pwysau gan fod canser yn gallu achosi problemau ariannol ofnadwy.
“Roedd yr uned yn eich caniatáu chi i barcio am ddim yn syth o flaen y drws hefyd, sy’n fendith pan fyddwch chi’n teimlo’n wan ar ôl effeithiau cynyddol y driniaeth.
“Er gwaethaf pa mor sâl roedd llawer o’r cleifion, roedd y staff wedi sicrhau bod yr ystafell aros yn lle cysurlon. Roedd te a choffi ar gael drwy’r amser ac roedd llond llu o siocledi.
“Roedd fy ffrindiau ddaeth gyda fi i’r apwyntiadau wedi synnu at ba mor gadarnhaol roedd pawb a pha mor ddisglair oedd yr uned gyda gerddi prydferth o’i chwmpas.
“Er mai hon oedd un o adegau isaf fy mywyd, mae gen i atgofion melys o’r uned ac o’r staff. Ond yn y ffordd orau posib, dwi ddim ar frys i ddychwelyd!”
Meddai Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau Cymorth Canser Macmillan: “Rydyn ni mor falch o Uned Cemotherapi Macmillan yn Ysbyty’r Tywysog Siarl gan ei bod hi wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i bobl leol gyda chanser.
“Drwy’r gymuned leol ac ymdrechion codi arian, llwyddom ni i godi swm syfrdanol o £1 filiwn ar gyfer yr uned hon er mwyn iddi allu agor – yn ogystal â chyllid ychwanegol gan Macmillan a Llywodraeth Cymru – a fyddai hyn ddim wedi bod yn bosib heb y cymorth anhygoel hwn, gan gynnwys Pwyllgor Codi Arian Macmillan Merthyr Tudful.”
Meddai Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddor Iechyd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre: “Mae’n amlwg bod uned cemotherapi bwrpasol Macmillan ar safle Ysbyty’r Tywysog Siarl yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gleifion sy’n byw yn y rhanbarth gan ei bod hi’n lleihau eu hamser teithio yn sylweddol yn ystod cyfnod anodd iawn yn eu bywyd.
“Mae’n caniatáu staff Canolfan Ganser Felindre i barhau i ddarparu’r un gofal a gwasanaethau rhagorol maen nhw’n eu darparu yng Nghanolfan Ganser Felindre, ond yn agosach at gartref.”
Dywedodd Alan Lawrie, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Daeth Uned Cemotherapi Macmillan â gofal canser yn agosach at gleifion yn eu cymuned eu hun ac mae effaith gadarnhaol hyn ar gleifion wedi bod yn aruthrol.
“Hoffwn i dalu teyrnged hefyd i ymdrechion anhygoel y gymuned leol i godi arian sydd wedi helpu i adeiladu’r uned hon.
“Mae’r uned yn cynnig man dawel, gyfforddus a chysurus gyda chymorth aelodau o Glwb Rotari Merthyr Tudful, sydd wedi helpu i gynnal a chadw gardd yr uned.”
Meddai Colin Parker, un o gyn-lywyddion Clwb Rotari Merthyr Tudful: “Mae ein haelodau wedi bod yn cynnal a chadw gardd yr uned dros y chwe blynedd ddiwethaf, a hyd yn oed yn ystod yr holl waith adeiladu yn y cyfnod hwn, mae’r ardd yn edrych yn brydferth.
“Rydyn ni wedi cadw’r ardd yn daclus ac yn lliwgar er mwyn i bobl allu eistedd ac ymlacio ynddi mewn tawelwch.
“Yn aml, mae’r bobl sydd wedi dod i’r uned yn dweud sut mae gweld y garddwyr wrth eu gwaith a phrydferthwch yr ardd wedi eu helpu nhw yn ystod eu triniaeth."