Neidio i'r prif gynnwy

Mae 'Gwiriadau Iechyd yr Ysgyfaint' yn cael eu cynnig am ddim i drigolion Gogledd y Rhondda!

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yw'r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i lansio rhaglen beilot 'Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint' i ganfod camau cynnar canser yr ysgyfaint, cyn bod unrhyw arwyddion neu symptomau yn ymddangos.

Mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Canser Cymru, mae'r Bwrdd Iechyd yn bwriadu gweld cleifion cyntaf y rhaglen beilot yn cael sganiau o 27 Medi 2023.

Mae ymchwil yn dangos bod canserau'r ysgyfaint sy’n cael eu canfod drwy wiriadau iechyd yr ysgyfaint yn llawer mwy tebygol o fod ar gam cynnar. Pan gaiff ei ganfod yn gynnar, gall triniaeth ar gyfer canser yr ysgyfaint fod yn symlach ac yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus. Mae ymchwil yn dangos y gall sganiau sgrinio canser yr ysgyfaint leihau'r siawns y byddwch chi’n marw o ganser yr ysgyfaint 25%.

Gall canser yr ysgyfaint ddatblygu ar unrhyw adeg ac mae'n bwysig gofalu am unrhyw beth anarferol, fel peswch newydd sy'n para mwy na thair wythnos, neu newid i beswch rydych chi wedi'i gael ers tro. Os ydych chi'n poeni, dylech fynd i weld eich meddyg cyn gynted â phosib.

Gan weithio gyda meddygfeydd yng Ngogledd y Rhondda, bydd y rhaglen beilot yn anelu at gynnig sgan sgrinio’r ysgyfaint i tua 500 o gleifion. Y practisau cyntaf sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot yw Meddygfa Stryd Dewi Sant a Meddygfa Llwynypia, gyda nifer fach o feddygfeydd eraill o ardal y Rhondda i ddilyn. Bydd y meddygfeydd yn nodi cleifion rhwng 60 a 74 oed, sy'n ysmygu neu sydd wedi ysmygu yn y gorffennol. Bydd y cleifion sy’n cael eu nodi’n derbyn gwahoddiad am asesiad ffôn ynghyd â llyfryn manwl, a fydd yn sicrhau bod ganddyn nhw’r holl wybodaeth sydd ei hangen i'w galluogi i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ydyn nhw’n ymgysylltu â'r gwasanaeth ai peidio. Ar ôl derbyn y gwahoddiad, bydd asesiad ffôn ac, os yw'r claf yn addas, byddan nhw’n cael eu gwahodd i ddod am sgan sgrinio’r ysgyfaint CT dos isel. Bydd yr uned sganio symudol wedi'i lleoli y tu allan i Ysbyty Cwm Rhondda yn Llwynypia, Rhondda Cynon Taf i sicrhau mynediad hawdd i bob claf sy'n mynychu.

Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn wiriad iechyd yr ysgyfaint yn cael eu cefnogi drwy gydol eu taith trwy lwybr gofal clir ac wedi'i esbonio'n dda.

Mae Sinan Eccles, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Anadlol yn arwain y peilot ar ran BIPCTM ac meddai: "Gall dal canser yr ysgyfaint yn gynnar, cyn bod unrhyw symptomau, wneud gwahaniaeth enfawr. Gellir gwella canser yr ysgyfaint pan geir yn gynnar. Mae'n gyffrous bod y rhaglen beilot hon yn digwydd yng Nghwm Taf Morgannwg; bydd yn ein helpu i lunio'r cynlluniau ar gyfer rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint ehangach yng Nghymru yn y dyfodol."

Dywedodd Chris Coslett, Rheolwr Rhaglen Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint, Gweithrediaeth y GIG (Rhwydwaith Canser Cymru): "Mae'n wych i fod yn gweithio ar y cyd â'r Bwrdd Iechyd, yn ogystal â phartneriaid yn y diwydiant a'r trydydd sector, i gyflawni'r peilot cyffrous hwn, a bydd beth rydyn ni’n dysgu ohono yn cael etifeddiaeth barhaol i bobl Cymru am flynyddoedd i ddod."

Dywedodd Dr Bikram Choudhary, meddygfa Heol Dewi Sant, Ton Pentre: "Rydym wrth ein bodd bod Gwiriadau Iechyd yr Ysgyfaint am ddim yn cael eu cynnig i gleifion yn ein practis fel y cyntaf yng Nghymru. Mae'r apwyntiad dros y ffôn cychwynnol yn gyflym ac yn gyfleus. Gall y gwiriadau hyn wneud gwahaniaeth mawr, felly byddwn ni’n annog pawb sy'n derbyn gwahoddiad i ymgymryd â'r apwyntiad."

Dywedodd Prif Weithredwr Gofal Canser Tenovus, Judi Rhys: "Mae canfod yn gynnar yn allweddol i wella canlyniadau i bobl â chanser yr ysgyfaint, sef y canser sy’n llad y nifer mwyaf o bobl yng Nghymru o hyd. Mae manteision clinigol ac ariannol sgrinio yn aruthrol, ac rydym yn falch o weld lansiad y peilot. Mae gan y rhaglen y potensial i achub cannoedd o fywydau ledled y wlad."

I gael rhagor o wybodaeth am y peilot gwiriadau iechyd yr ysgyfaint, ewch i: https://bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/gwiriadau-iechyd-yr-ysgyfaint/

Rhoi'r gorau i ysmygu yw'r newid pwysicaf y gall person ei wneud i wella ei iechyd. Os oes angen cymorth arnoch i roi'r gorau i ysmygu, ffoniwch 0800 085 2219 (am ddim) neu ewch i www.helpafiistopio.cymru

 

Nodiadau i olygyddion

 

Cefnogwyd y rhaglen beilot gan y sefydliadau canlynol:

 

  • Gofal Canser Tenovus
  • Menter Canser Moondance
  • BMS (Bristol Myers Squibb)
  • Roche
  • MSD (Merck Sharp Dohme (UK) Ltd)
  • Novartis
  • InHealth

 

29/08/2023