Mae gwasanaethau newydd sydd wedi eu cyflwyno gan y GIG yn ystod pandemig COVID-19 wedi annog mwy na thraean o bobl sy’n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (36%) i ailystyried y ffordd y byddan nhw’n mynd ati i gael cymorth am broblemau gofal iechyd sydd ddim yn frys yn y dyfodol. Dywedodd dim ond 13% hefyd y byddan nhw’n ystyried cael gofal meddygol brys mewn ffyrdd eraill.
Yn rhan o’i hymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi astudiaeth newydd gan YouGov o’r ffordd mae pobl mewn gwahanol ardaloedd o Gymru wedi bod yn defnyddio gwasanaethau’r GIG ers dechrau’r pandemig. Nod yr ymgyrch yw addysgu pobl ynglŷn â sut i gael y gofal iechyd mwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Julie Denley, fod yr ymchwil wedi ei gynnal er mwyn canfod pa mor ymwybodol yw pobl mewn gwahanol ranbarthau o wasanaethau’r GIG sydd ar gael i gleifion, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gallu cael eu gweld a’u trin yn gyflymach ac yn well.
Meddai Ms Denley: “Mae’r arolwg hwn yn cadarnhau nad yw pobl yn siŵr beth yw’r ffordd orau o gael cymorth am unrhyw broblemau iechyd sy’n eu poeni nhw, o ganlyniad i holl gyfyngiadau’r cyfnod clo a’r newidiadau i wasanaethau’r GIG dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl wedi bod yn poeni am fynd at y GIG gan eu bod nhw’n ofni dal y feirws, yn enwedig yn ystod y cyfnodau brig, a bod pobl eraill wedi osgoi mynd at y GIG gan eu bod nhw o’r farn y byddan nhw’n rhoi rhagor o bwysau ar ein meddygon a’n nyrsys. Er bod y ffordd y gall pobl ddefnyddio ein gwasanaethau wedi newid, rydyn ni am i breswylwyr lleol wybod ein bod ni gerllaw o hyd ar eu cyfer nhw. Mae modd cael pa bynnag ofal iechyd a chymorth sydd eu hangen yn ddiogel o hyd, a hynny yn aml heb orfod mynd at y meddyg teulu na’r adran argyfwng.”
Er ei bod hi’n 11 mis erbyn hyn ers i feddygfeydd ledled y wlad orfod newid eu ffordd o gynnal ymgynghoriadau, dim ond 44% o bobl yn yr ardal leol oedd yn ymwybodol bod meddygon teulu yn cynnig apwyntiadau ar-lein a dim ond 29% oedd wedi defnyddio’r gwasanaeth hwnnw.
Er nad oedd mwy na hanner y rheiny gafodd eu holi (56%) yn ymwybodol bod ymgynghoriadau â meddyg teulu ar-lein ar gael, dywedodd 79% fod hwn yn wasanaeth pwysig.
Mae’r cyhoedd wedi croesawu gwiriwr symptomau ar-lein GIG 111, sy’n helpu pobl i ddeall pa wasanaeth y GIG i’w ddefnyddio ar gyfer gwahanol bryderon iechyd sydd ddim yn rhai brys. Yn ogystal â hynny, dywedodd mwy na tri chwarter o’r bobl gafodd eu holi (78%) fod y gwasanaeth hwn yn bwysig, ond dim ond 58% oedd yn ymwybodol o’r adnodd ar-lein a dim ond 27% oedd wedi defnyddio’r adnodd.
Un o’r pethau allweddol oedd yn rhoi pwysau ar y GIG ers cyn y pandemig oedd nifer yr ymweliadau diangen ag adrannau argyfwng ysbytai. Ddylai’r adrannau hyn ond trin cleifion gyda chyflyrau brys sy’n bygwth eu bywyd. Mae modd trin, er enghraifft toresgyrn, ysigiadau a mân losgiadau, lawer yn fwy effeithiol mewn uned mân anafiadau nag mewn adran argyfwng, ac eto doedd dros draean o’r bobl gafodd eu holi (37%) ddim yn ymwybodol bod unedau mân anafiadau’n bodoli.
Meddai Ms Denley: “I’n helpu ni i’ch helpu chi, mae’n hanfodol eich bod yn defnyddio’r gwasanaeth iawn yn y ffordd iawn, gan ddibynnu ar eich symptomau. Mae fferyllfeydd yn wasanaeth hollbwysig os ydych chi’n teimlo’n dost, neu os oes gyda chi bryderon iechyd sydd ddim yn ddifrifol neu fân anhwylder. Os oes angen gwybodaeth am iechyd arnoch chi tu allan i oriau, mae Gwasanaeth 111 GIG Cymru ar gael 24 awr y dydd bob dydd ac mae modd gwirio eich symptomau ar ei wefan.
“Unedau mân anafiadau yw’r lle gorau i fynd am anafiadau llai difrifol ond os bydd angen gofal brys arnoch chi ar gyfer problem ddifrifol gyda’ch braich neu goes neu anaf sy’n bygwth eich bywyd, fel tagu, poen ar y frest, llewygu neu waedu difrifol, dylech chi ffonio 999.
“Byddwn ni’n cynnal ymgyrch gyfathrebu barhaus drwy’r flwyddyn i helpu pobl i ddeall sut i gael y cyngor a’r driniaeth angenrheidiol yn y ffordd orau.”
Mae canlyniadau’r arolwg wedi datgelu bod gwasanaethau newydd y GIG wedi ennyn cefnogaeth amlwg ymysg y cyhoedd. Pan ofynnwyd pa mor bwysig yw’r gallu i fynd at y GIG mewn gwahanol ffyrdd, fel drwy unedau mân anafiadau, ymgynghoriadau â meddygon teulu o bell, gwiriwr symptomau ar-lein GIG 111 neu’r cynllun mân anhwylderau sydd ar gael mewn fferyllfeydd, dywedodd cyfartaledd o 88% fod hyn yn bwysig.
Ychwanegodd Ms Denley: “Mae’n galonogol gweld bod y cyhoedd yn gallu deall pwysigrwydd y gwasanaethau newydd hyn a bod llawer o bobl erbyn hyn yn ailystyried y ffordd maen nhw’n mynd ati i gael triniaeth am ofal brys a gofal sydd ddim yn frys. Fodd bynnag, er mwyn lleddfu’r pwysau ar y GIG ac i wneud yn siŵr bod cleifion yn cael y driniaeth briodol cyn gynted â phosib, mae gwir angen i bawb yng Nghymru newid eu harferion a defnyddio’r gwasanaethau newydd.”
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut orau i ddefnyddio gwasanaethau’r GIG, ewch i www.111.wales.nhs.uk..