Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu ein Gwirfoddolwyr CTM – Wythnos Gwirfoddolwyr 2026

Yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr eleni, rydym yn falch o ddathlu'r unigolion anhygoel sy'n rhoi o'u hamser, eu tosturi a'u hegni i gefnogi cleifion, teuluoedd a staff ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. 

O groesawu ymwelwyr wrth fynedfeydd ysbytai prysur, i gynnig cysur mewn adrannau argyfwng, yn aml gwirfoddolwyr yw'r wyneb cyfeillgar cyntaf y mae rhywun yn cwrdd ag ef wrth ddod i mewn i'n hysbytai. 

I ddathlu ein gwirfoddolwyr a'r gwaith maen nhw'n ei wneud, rydyn ni'n tynnu sylw at rai ohonyn nhw a'u cymhellion i wneud beth maen nhw'n ei wneud! 

Gwirfoddolwyr Cwrdd a Chyfarch 

Yn aml y pobl cyntaf i gyfarch cleifion wrth iddyn nhw gyrraedd yr ysbyty, mae ein gwirfoddolwyr cwrdd a chyfarch ar draws ein holl safleoedd ysbyty yno i'ch helpu i deimlo'n gyfforddus, eich cynorthwyo i weld ble mae angen i chi fod, neu fod yn llais tawel os bydd ei angen arnoch.  

Mae Alan wedi gweithio o fewn Meddygaeth ers dros 30 mlynedd, ac fe wnaeth gais i wirfoddoli ar y Ddesg Wybodaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Dywedodd Alan: “Rydw i wedi teimlo’r gorbryder y mae ymwelwyr a chleifion yn ei deimlo wrth ddod i mewn i Amgylchedd yr Ysbyty.  

“Drwy eu cyfeirio at Adrannau a Wardiau’r Ysbyty, neu wrando ar bryderon am fod yn hwyr, rydw i’n teimlo fy mod yn cyfrannu mewn ffordd fach at sut mae’rr Ysbyty yn gweithio.  

“Mae’r diolch rydw i’n ei gael wrth i’r cleifion adael yn cadarnhau hyn, ac rydw i bob amser yn gadael ar ddiwedd fy sifft gan deimlo fy mod wedi gwneud rhywbeth da.” 

Mae Lyn wrth ei bodd yn cwrdd â phobl a helpu eraill ac yn gwirfoddoli ar y Ddesg Wybodaeth. Dywedodd Lyn: “Rydw i’n dwlu ar gwrdd â phobl a helpu eraill, mae’n werth chweil ac yn rhoi cymaint o foddhad i mi. Mae gwirfoddoli yn rhoi ymdeimlad gwirioneddol o bwrpas i mi. 

“Gall gwên a chyfarchiad wneud gwahaniaeth. Rydw i’n aml yn cael adborth a diolch sy'n gwneud i chi deimlo eich bod wedi helpu go iawn.” 

Yn Ysbyty Tywysoges Cymru, mae Jan a Lynne yn rhan o dîm ymroddedig o wirfoddolwyr Cwrdd a Chyfarch sy'n dod â blynyddoedd o brofiad ac ymrwymiad i'w rolau. Dywedon nhw: “Yn aml, ni yw’r cysylltiad dynol cyntaf â chleifion ac ymwelwyr a all gyrraedd dan straen, yn bryderus, yn rhwystredig ac wedi’u llethu. 

“Gall croeso cynnes, cyfarwyddiadau clir neu air calonogol leddfu pryder. Nid dim ond beth a wnawn yw'r peth pwysig, ond sut rydym yn gwneud i bobl deimlo, ac mewn amgylchedd ysbyty, gall hynny wneud yr holl wahaniaeth." 

Mae Gary wedi bod yn Ysbyty Tywysoges Cymru ers dros 5 mlynedd, yn gwirfoddoli yn y ddau dderbynfa ac yn yr Adran Argyfwng, Dywedodd ef, “Dywedodd rhywun unwaith nad dim ond troi i fyny yw rheol aur gwirfoddoli; mae'n rhoi eraill yn gyntaf, a dyna pam rydyn ni, fi a fy nghyd-wirfoddolwyr, yn codi o'r gwely yn y bore.” 

Gwirfoddolwyr yr Adran Argyfwng  

Gan weithio yn rhai o'r amgylcheddau prysuraf a mwyaf heriol, mae ein gwirfoddolwyr yn yr Adran Argyfwng yn darparu cefnogaeth amhrisiadwy, anghlinigol i gleifion, teuluoedd a staff. 

Mae Annmarie yn gwirfoddoli yn yr Adran Argyfwng yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a dywedodd: “Rydw i’n gweld gwirfoddoli yn werthfawr iawn. Mae'n rhoi ymdeimlad o bwrpas i mi wybod y galla i helpu pobl ac mae wedi fy helpu i ennill mwy o hyder.”  

Gweithiodd Dawn fel nyrs am 42 mlynedd cyn ymddeol, ac mae hi bellach yn gwirfoddoli yn yr adran. Dywedodd Dawn: “Roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r gwasanaeth iechyd gwladol, ac rydw i’n falch o gefnogi’r Adran Argyfwng , er mewn ffordd fach.” 

Ers ymddeol, mae Marian hefyd wedi bod yn gwirfoddoli yn yr Adran Argyfwng. Dywedodd hi: “Rydw i’n gwirfoddoli oherwydd fy mod i’n hoffi helpu pobl ac eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r GIG a’i staff am y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud mewn amgylchiadau heriol. 

“Rydw i’n cwrdd â phobl o bob cefndir ac yn teimlo’n dda yn gwybod bod fy nghyfraniad, waeth pa mor fach, yn helpu cleifion pan fyddan nhw o bosibl yn teimlo’n agored i niwed.” 

Mae Jon hefyd o fewn yr Adran Argyfwng a dywedodd: "Nid oes ffordd well o wella'ch hun na helpu eraill. Mae (ein) Bwrdd Iechyd yn rhan hanfodol o'n cymuned ac mae GIG Cymru gyfan yn hanfodol i'n cenedl a phwy ydym ni.” 

Gwirfoddolwyr Gofal Ysbrydol  

Gan ddarparu cysur, myfyrdod a chysylltiad, mae ein gwirfoddolwyr Gofal Ysbrydol yn cefnogi cleifion, preswylwyr a staff ar draws ein safleoedd. 

Gan wirfoddoli yn Ysbyty George Thomas, dechreuodd Denise ymweld gyntaf 20 mlynedd yn ôl. Dywedodd, “Rydw i’n mwynhau fy amser gyda chleifion rheolaidd yn Uned Ddydd Ysbyty George Thomas yn fawr iawn. Rydym yn cynnal gwasanaeth bach, yn canu rhai caneuon, yn darllen darn o'r Beibl ac yn dweud rhai gweddïau.  

“Mae’n hyfryd ac mae fy nghroeso mor gynnes heddiw ag yr oedd 20 mlynedd yn ôl!” 

Mae Mavis yn gwirfoddoli o fewn y Gwasanaeth Caplaniaeth yn Ysbyty Glanrhyd ac eglurodd, “Mae gen i’r fraint o gynorthwyo’r Caplan bob wythnos wrth iddo ddarparu gwasanaeth yng Nghapel Glanrhyd i’w ‘preswylwyr’. 

“Mae’r gwasanaeth hwn nid yn unig yn darparu cyfle ar gyfer gofal ysbrydol ond cyfle i gefnogi pawb sy’n mynychu ac mae wedi dod yn werddon i staff a phreswylwyr fel ei gilydd. Mae'n llawenydd eu gweld yn cymryd rhan, yn tyfu mewn hyder ac yn ffurfio cyfeillgarwch gwych.”  

Gwirfoddolwyr Wardiau  

Ar draws ein wardiau, mae gwirfoddolwyr yn cynnig cefnogaeth ymarferol, cwmni ac anogaeth sy'n gwella profiad a lles y claf. 

Mae Elizabeth yn Wirfoddolwr Gweithgareddau’r Ward yn Ysbyty Cwm Rhondda ac mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn gweithio o fewn gofal iechyd yn y dyfodol. Dywedodd hi: “Mae gwirfoddoli yn adran therapi galwedigaethol Cwm Taf Morgannwg yn cynnig profiad ymarferol gwerthfawr i mi mewn gyrfaoedd iechyd. Mae'n gyfle i mi ddatblygu sgiliau allweddol fel cyfathrebu, gwaith tîm ac empathi wrth feithrin cysylltiadau proffesiynol a allai fy helpu i sicrhau swydd yn y dyfodol. 

“Rydw i hefyd yn cael boddhad personol drwy gael effaith gadarnhaol ar fywydau cleifion.” 

Mae Temitope yn Wirfoddolwr Ward yn Ysbyty Tywysoges Cymru, a dywedodd fod “Gwirfoddoli yn yr ysbyty yn brofiad gwerth chweil sydd nid yn unig yn gwella bywydau cleifion ond hefyd yn cyfoethogi fy natblygiad personol fy hun.  

“Rydw i’n gwirfoddoli i roi rhywbeth yn ôl a chefnogi’r rhai mewn angen a hefyd i wneud cysylltiadau newydd. Mae gwirfoddoli yn dod â llawenydd a theimlad o gyflawniad a phwrpas i mi, gan fy nghysylltu ag eraill.” 

Mae Suzanne yn un o'n gwirfoddolwyr ar y Ward Geni ac eglurodd: “Rydw i’n caru gwirfoddoli ar y ward geni a gweld y babanod newydd gyda’u teuluoedd. Mae cael sgwrs gyda mamau, tadau neu neiniau a theidiau newydd a rhannu eu profiadau yn ffordd hyfryd o wneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi ac yn rhoi hyder iddyn nhw wrth iddyn nhw fynd â'u bwndel gwerthfawr adref.” 

Gwirfoddolwyr “Good to Grow”, Y Bwthyn 

Mae'r grŵp garddio yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn cynnwys cleifion a gwirfoddolwyr sydd wedi datblygu'r ardd i dyfu amrywiaeth o ffrwythau, llysiau a pherlysiau. Maen nhw hefyd yn plannu blodau tymhorol i fywiogi'r ardal o fewn yr ardd gymunedol yn Y Bwthyn.  

Dywedodd un o’r gwirfoddolwyr, Chris: “Mae’r teimlad o gymrodoriaeth a gawn yn gweithio ar yr ardd gyda’n gilydd yn amlwg, beth bynnag yw ein gallu neu ein sgiliau garddio. Y sŵn mwyaf cyffredin gan wirfoddolwyr a chleifion yw chwerthin (ac eithrio pan fydd cyflenwad arall o bridd uchaf, compost neu raean yn cyrraedd i'w gludo i'r gwelyau uchel!). 

“Os yw unrhyw un yn ystyried gwirfoddoli, byddwn i’n dweud rhoi cynnig arni. Mae cymaint o sefydliadau sydd angen gwirfoddolwyr, felly byddwch chi’n siŵr o ddod o hyd i rywbeth i gyd-fynd â'ch set sgiliau. Dw i’n siwr y byddwch chi’n cael llawer o hwyl hefyd.” 

I bob gwirfoddolwr ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, diolch. Mae eich caredigrwydd, eich ymroddiad a'ch haelioni ysbryd yn ymgorffori'r gorau o'n gwerthoedd. 

Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn gyfle i gydnabod y gwahaniaeth rydych chi'n ei wneud, ond mae eich effaith yn cael ei theimlo drwy gydol y flwyddyn. 

Mae Gwobrau Blynyddol Seren CTM bellach ar agor ar gyfer enwebiadau a pha ffordd well o nodi Wythnos y Gwirfoddolwyr na thrwy enwebu gwirfoddolwr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol i roi ei amser, ei egni a'i ymrwymiad yn hael i helpu eraill.  

Mae hyn yn cynnwys gwirfoddolwyr sy'n cefnogi gwasanaethau CTM yn uniongyrchol, gan wella profiad cleifion, ymwelwyr a theuluoedd ac, wedi'i ehangu ar gyfer 2026, staff CTM sy'n gwirfoddoli eu hamser eu hunain y tu allan i'r gwaith yn cefnogi elusennau, grwpiau cymunedol neu fentrau lleol ar draws ardal CTM. 

Os hoffech chi enwebu gwirfoddolwr, dysgwch fwy yma: https://bipctm.gig.cymru/newyddion/y-newyddion-diweddaraf/gwobrau-blynyddol-ctm-seren-2026-enwebiadau-cyhoeddus-ar-agor-nawr/  

Os hoffech chi gael gwybod mwy am gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael o fewn CTM, ewch i'r dudalen we hon: https://bipctm.gig.cymru/swyddi/gwirfoddoli-i-ni/