Neidio i'r prif gynnwy

BIPCTM yn cynnig ap getUBetter am ddim i gefnogi pobl ym Merthyr i reoli poen yn y cyhyrau a'r cymalau gartref

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi partneru â getUBetter i ddarparu ap am ddim i helpu pobl ym Merthyr Tudful i ofalu am anafiadau a chyflyrau cyhyrysgerbydol (MSK) gan gynnwys poen yn y cyhyrau a'r cymalau o'u cartref eu hunain.  

Mae ap getUBetter wedi'i greu gan ffisiotherapyddion cyhyrysgerbydol ac arbenigwyr iechyd digidol.  Mae’n cael ei ariannu gan Glwstwr Merthyr Tudful fel prosiect peilot sy’n gweithio ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. 

Mae'r ap yn hawdd ei ddefnyddio ac yn rhoi cymorth syml, cam wrth gam yn seiliedig ar sut mae rhywun yn teimlo. Mae'n cynnwys ymarferion y gall pobl symud ymlaen a newid ar eu cyflymder eu hunain. Mae hefyd yn eu cadw'n ddiogel, gan ddweud wrthyn nhw pryd y gallen nhw fod angen cymorth ychwanegol, a ble i ddod o hyd iddo yn eu hardal.  

Gall y poenau mwyaf cyffredin wella gyda'r gofal cywir gartref. Mae ap getUBetter yn rhoi'r offer sydd eu hangen ar bobl i deimlo'n fwy hyderus yn gofalu amdanyn nhw eu hunain, boed y boen yn newydd neu os yw wedi bod o gwmpas ers tro. 

Dywedodd Carey McClellan, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol getUBetter: “Rydym mor gyffrous i fod yn gweithio gyda’r tîm anhygoel ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gyflwyno’r ap getUBetter, a chefnogi pobl ym Merthyr Tudful gyda rheoli’r holl anafiadau a chyflyrau cyhyrysgerbydol (MSK) cyffredin, ochr yn ochr â’u gofal arferol.  

Dyma'r tro cyntaf i dechnoleg getUBetter gael ei chynnig gan fwrdd iechyd yng Nghymru. Drwy ddarparu'r ateb digidol hwn, rydym yn cefnogi'r boblogaeth leol, ac ar yr un pryd yn cefnogi'r bwrdd iechyd lleol drwy leihau costau a chynyddu capasiti gofal. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio er budd cleifion a'r system iechyd, drwy roi cymorth digidol diogel, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wrth wraidd llwybrau MSK.” 

Dywedodd Clare Connor, Ffisiotherapydd Ymgynghorol: “Rydym yn falch o fod yn gweithio ar y cydweithrediad peilot hwn gyda getUBetter, ac o fod y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i gynnig yr ap getUBetter i gefnogi ein cymunedau ym Merthyr Tudful. 

“Mae’r ap yn ffordd dibynadwy o gefnogi pobl sydd â phroblemau cyhyrau, cymalau ac esgyrn gyda gwybodaeth a chyngor am beth gallan nhw ei wneud drostyn nhw eu hunain a hefyd sut i ddod o hyd i help a gofyn amdano pan fydd ei angen arnyn nhw.  Mae'n ffordd syml i bobl gael eu cynllun adferiad personol eu hunain heb orfod aros am apwyntiad.” 

Mae'r ap yn gweithio ar ffonau clyfar, tabledi, neu drwy borwr gwe. Mae am ddim i bawb yn ardal Merthyr Tudful, mae ar gael mewn 14 iaith wahanol, mae'n cynnwys isdeitlau ar bob fideo, ac mae ganddo nodwedd sy'n darllen y testun yn uchel. 

Sut i gael yr ap: 

  • Lawrlwythwch yr ap o siop apiau ar-lein 

  • Ewch i wefan eich meddyg teulu lleol 

  • Sganiwch god QR ar bosteri neu daflenni yn eich ardal 

  • Gofynnwch i'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol 

  • Cael mynediad iddo drwy'r Gwasanaeth Ffisiotherapi yn Ysbyty'r Tywysog Siarl 

21/07/25