Neidio i'r prif gynnwy

CTM ar y Maes – Eisteddfod 2024

Ychydig wythnosau yn unig sydd i fynd cyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg agor ei stondin am y tro cyntaf yn Eisteddfod 2024 ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd.

Hefyd, rydyn ni wedi dechrau cyfri'r dyddiau i lawr gyda lansiad cyffrous o'n gwefan Eisteddfod 2024. Rydym yn gobeithio y bydd y wefan yn:

  • Hyrwyddo sut y gallwch ddefnyddio eich Cymraeg yng Nghwm Taf Morgannwg;
  • Eich helpu i gynllunio ar gyfer eich ymweliad â'r Eisteddfod yn ddiogel ar y cyd â gwybodaeth swyddogol yr Eisteddfod a RhCT (gwesteiwr y digwyddiad);
  • Darparu canllaw gofal iechyd defnyddiol i gefnogi eich ymweliad, ond hefyd yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gyfer byw'n iach ar gyfer pob cam o fywyd;
  • Eich gadael yn gyffrous i gymryd rhan yn ein rhaglen beth sydd ymlaen – gydag addysg a gweithgareddau i’r teulu cyfan! 

Hoffem ddiolch i aelodau Cwm Taf People First am weithio gyda ni i ddatblygu fersiwn hawdd ei darllen o’n rhaglen a hefyd Get Fit Wales am weithio mewn partneriaeth â ni i droi eich ymweliad â’r ŵyl yn antur gyffrous.

Rydym yn barod i groesawu llawer o ymwelwyr i’n stondin yn ystod yr wythnos ac yn croesawu eich cefnogaeth i rannu ein dolen i’r gwefan a negeseuon cyfryngau cymdeithasol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:

Cadwch lygad am ein diweddariadau digwyddiadau ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #CTMArYMaes

 

08/07/2024