“Rydw i’n cofio gweld dynes i’w brechu ryw amser cinio. Roedd ei gŵr wedi bod yn yr ysbyty, ac roedd wedi marw o COVID-19 y bore hwnnw.
“Er hynny, dywedodd hi wrthym ni ei bod yn gwybod bod rhaid iddi ddod i’w hapwyntiad brechu, achos roedd hi’n gwybod yn well na neb pa mor beryglus yw COVID.”
Yn 2018, ar ôl 37 mlynedd yn y GIG, ymddeolodd Jane Williams o’i swydd fel Cydlynydd Brechiadau yn BIP Cwm Taf Morgannwg Dychwelodd i weithio am ddau ddiwrnod yr wythnos. Ar y tri diwrnod arall roedd Jane wrth ei bodd, yn gwarchod ei hwyrion ac yn treulio amser yng ngharafán y teulu.
Wedyn, yn Ebrill 2021 dyma Jane, yn ei geiriau ei hun, yn “gadael Gwlad y Covid”, ar ôl chwe mis hynod brysur yn ei swydd fel uwch-nyrs lawn-amser yn rhaglen frechu’r Bwrdd Iechyd.
Dan arweiniad Jane, dechreuodd ei thîm brechu arbenigol gynllunio fis Awst y llynedd, pan ddechreuodd y sôn gyntaf am frechlyn. Dyma ddim mwy na chiplun o gyfraniad Jane: mae wedi cynllunio sut byddai ysbytai yn brechu eu staff rheng flaen, mae wedi hyfforddi staff CTM sut i frechu, mae wedi dylunio’r canolfannau brechu cymunedol i redeg fel wardiau ysbytai ac mae wedi rhoi pigiadau i bobl eu hun.
Meddai Jane: “Mae beth sydd wedi digwydd dros y chwe mis diwethaf yn fy syfrdanu.
“Rydyn ni wedi gweld cleifion yn crio wrth gyrraedd y canolfannau brechu cymunedol. Maen nhw’n gwybod mai hon yw’r unig ffordd allan, ac maen nhw am ddychwelyd i fywyd fel yr oedd cyn y pandemig a gweld eu teuluoedd.
“Gwnaf i bopeth posibl i wneud hynny yn y gobaith o chwarae rôl fach i helpu’r teuluoedd hyn i weld ei gilydd eto.
“Mae mor emosiynol. Os bydd rhywun arall yn crio, yna bydda i’n crio hefyd a does dim y galla i ei wneud am y peth...bydda i’n torri fy nghalon.
“Dydy rhai o’r bobl hyn ddim wedi gweld neb arall ers mis Mawrth y llynedd, dydyn nhw ddim wedi gweld neb wyneb yn wyneb am bron i flwyddyn.
“Mae rhai ohonyn nhw’n nerfus iawn, achos maen nhw’n teimlo’n fregus ac maen nhw wedi gorfod gadael y tŷ i gael eu brechu. Ond, pan maen nhw’n cyrraedd ac yn gweld sut olwg sydd ar y canolfannau brechu, maen nhw’n teimlo’n fwy cyfforddus. Dydyn ni ddim wedi cael dim byd ond sylwadau positif.
“Mae’n fraint bod yn rhan o dîm sy’n gallu gwneud gwahaniaeth i bobl ac i’w teuluoedd.
Mae siarad am y rhaglen frechu yn amlwg yn bwnc emosiynol i Jane. A hithau’n gweithio’n ddibaid, dyma’r tro cyntaf iddi gael y cyfle i eistedd i lawr a meddwl am beth mae hi a’i thîm wedi ei wneud a’i gyflawni.
Dywedodd hi: “Roeddwn i wedi amau fy hun sawl gwaith, yn amau a oeddwn i’n gallu ei gwneud hi ai peidio. Roedd mor anodd, mor ofnadw’ o anodd. Rydw i’n mynd yn emosiynol yn siarad am y peth.
“Roedd rhaid ei gwneud hi. Cawson ni’r brechlyn, ac roedd rhaid i ni ddiogelu pobl, a hynny’n gyflym. Roedd rhaid i ni baratoi popeth.
“Yr oriau roedden ni i gyd wedi eu gweithio...saith diwrnod yr wythnos, yn gweithio yn hwyr yn y nos, bob nos. Doeddwn i erioed wedi cael profiad o unrhyw beth fel hyn o’r blaen yn ystod fy amser yn y GIG. Roedd y pwysau’n gallu fy llethu.
“Ond roedd pawb mor benderfynol y byddai’r gwaed, y chwys a’r dagrau yn werth chweil, trwy gyflwyno’r rhaglen frechu i’n cymunedau.
“Roeddwn mor ffodus o gael teulu mor gefnogol. Doedd dim rhaid i fi wneud dim gartref; byddwn i’n cyrraedd gartref a byddai te yn aros amdanaf i! Roeddwn i mor ffodus, a dywedodd fy nheulu bod hwn yn gyfle na ddylwn i ei golli.
“Dywedon nhw wrtha i - Dyma hanes, a ti’n byw trwyddo.”
Mae rhaglen frechu BIP Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn llwyddiant ysgubol, diolch i bob tîm sy’n rhan o’r rhaglen. Mae 60% o’r bobl sy’n byw yn ardal y Bwrdd Iechyd bellach wedi cael eu brechu ac mae CTM ar y trywydd iawn i gyflawni’r nod o gynnig y brechlyn i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd mis Gorffennaf. Mae bron i 330,000* o frechlynnau wedi cael eu rhoi ers i’r rhaglen gychwyn.
I Jane, oedd yn rhan o’r rhaglen ers y cyntaf un, mae’r rhif 330,000 yn teimlo’n anhygoel.
Dywedodd hi: “Roeddwn i ar alwad Teams gyda Llywodraeth Cymru. Roedd Vaughan Gething yno ynghyd ag ychydig o arweinwyr eraill o Fyrddau Iechyd eraill. Roedd e am gael teimlad am sut roedd pethau’n mynd.
“Roedd yr holl drafodaethau’n mynd rhagddyn nhw, ac roeddwn i’n dawel iawn.
“Yn sydyn, dyma fe’n dweud wrthyf i...Janes, dwyt ti ddim wedi dweud rhyw lawer...sut mae pethau wedi mynd o’ch safbwynt chi?
“Felly dyma fi’n dweud hyn a’r llall. Siaradais i am y cleifion ac am sut maen nhw wedi ymateb, a pa mor emosiynol roedd hyn wedi bod. Soniais i hefyd am faint o frechlynnau roedden ni wedi eu rhoi mewn cyfnod mor fyr.
“Wedyn, dechreuais i grio - a doeddwn i ddim yn gallu stopio - ar yr alwad.
“Criais ar alwad Teams, o flaen y Gweinidog Iechyd!
“Dywedais i ei bod yn flin iawn gyda fi. Dyma fe’n ateb yn dweud wrthyf i am beidio byth ag ymddiheuro am fynd yn emosiynol, achos roedd beth roeddwn i’n sôn amdano yn emosiynol. Roedd yn ddiffuant. Doeddwn i ddim yn gallu helpu fy hun.”
 gwên ar ei hwyneb, dywedodd Jane: “Rydw i’n credu y bydd yn cofio fi am sbel wedi hynny!”
Mae rhan o frwdfrydedd ac angerdd Jane dros y rhaglen frechu anferthol hon yn hynod bersonol iddi hi. Ar ddechrau’r pandemig, fel gollodd Jane ei thad i COVID-19.
Ar yr adegau anoddaf, yr atgof amdano oedd yn ei chadw i fynd. Dywedodd hi: “Bu farw fy nhad ym mis Ebrill y llynedd oherwydd COVID.
“Rydw i’n gwybod mai dyma un o’r rhesymau pam rydw i’n mynd yn emosiynol am beth rydyn ni i gyd wedi’i gyflawni fel tîm.
“Ond rydw i hefyd yn gwybod bod hyn wedi fy helpu. Rydw i’n gwybod - o fy mhrofiad personol fy hun - sut mae COVID yn effeithio ar deuluoedd a'n cymunedau. Galla i gydymdeimlo'n llwyr pan fydd cleifion a chydweithwyr yn siarad am eu colledion.
“Rydw i wedi bod yno.
“Dyma hefyd pam fy mod i mor angerddol am frechlynnau.”
Yn y cyd-destun hwnnw, i Jane, roedd camu i fyny a derbyn rôl uwch-nyrs yn benderfyniad anodd, ond dydy hi ddim yn difaru dim. Roedd dychwelyd i’w rôl arferol hefyd yn benderfyniad anodd, i ffarwelio â’r rhaglen. I Jane, fodd bynnag, mae wrth ei bodd yn wynebu’r heriau sy’n codi wrth gynnal y rhaglen frechu gyffredinol, lle mae’n sicrhau bod cyfraddau brechu MMR yn parhau’n uchel er mwyn osgoi cynnydd sydyn yn y nifer o achosion o’r frech goch er enghraifft. Hefyd, bydd ymgyrch y ffliw yn cychwyn cyn pen dim.
Peidiwch â synnu fodd bynnag os ydych chi’n mynd i ganolfan frechu gymunedol ac yn gweld wyneb cyfarwydd.
Dywedodd Jane: “Rydw i wir fy modd yn gweithio yn y canolfannau brechu cymunedol. Dyma pryd bydda i ar fy ngorau, yn gwneud y gwaith ymarferol. Felly rydw i’n mynd yn ôl i’r Banc Nyrsys a bydda i’n gwneud ychydig o sifftiau yn y canolfannau.
“Mae hon wedi bod yn daith emosiynol tu hwnt.
“Does dim ffordd y bydden ni wedi gallu gwneud hynny heb y gwahanol dimau sydd wedi dod ynghyd, a fydd y perthnasau hyn ddim yn diflannu nawr.
“Byddwn ni bob tro yn gweithio gyda’n gilydd o hyn ymlaen...ledled yr holl adrannau gwahanol.
“Mae bond go iawn rhyngom ni erbyn hyn.”
* Ffigur yn gywir ar 21.04.2021