Rachel Evans (Public Health Wales) Eleanor Johnson and Bronwen Clatworthy (Breastfeeding Network) Rosy Phillips, Fay Fear, Claire Turbutt, Sarah Jenkins (Cwm Taf Morgannwg University Health Board) Carla Baldwin, Bethan Thorn, Joanne Foley, Florence Beach, Eryl Powell (Aneurin Bevan University Health Board) Amy Brown , Karen Hall (Swansea University)
"” Mae bwydo ar y fron… yn gysylltiedig ag atal anghydraddoldebau iechyd sylweddol. Darparu llaeth y fron yw’r gweithgaredd mwyaf hygyrch a chost-effeithiol sydd ar gael o ran iechyd y cyhoedd.” Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024
Tair ymyrraeth a gyflwynwyd ar yr un pryd mewn dwy gymuned darged a nodwyd â nodweddion amddifadedd a chyfradd isel o fwydo ar y fron. Prosiect tymor byr a ariennir gan Grant Arloesi Tlodi Plant a Chefnogi Cymunedau Llywodraeth Cymru.
“Daeth pob partner â’r wybodaeth a’r sgiliau penodol [a oedd yn galluogi] cyflawni nodau yn gyflym… darperir y gefnogaeth gryfaf i fwydo ar y fron drwy… wahanol sgiliau a phrofiadau yn dod at ei gilydd.”
| Elfen | Rheswm | Canlyniad | "Effaith ehangach" |
|---|---|---|---|
|
Hyfforddiant cefnogaeth gan gymheiriaid - dwy garfan o Gynorthwywyr Bwydo ar y Fron ac un garfan o Gefnogwyr Bwydo ar y Fron. |
|
22 o Gynorthwywyr Bwydo ar y Fron wedi'u hyfforddi - 17 ohonynt o Gasnewydd a Rhondda (cymunedau targed). Roedd y garfan Cefnogwyr Bwydo ar y Fron yn cynnwys siaradwyr Cymraeg. |
|
|
Recriwtio swyddi rhan-amser tymor byr i hyrwyddo'r Llinell Gymorth Bwydo ar y Fron Genedlaethol (NBH). |
|
Dangosodd data BfN gynnydd mewn galwadau dros gyfnod chwe mis y prosiect. |
|
|
Cyflwyno’r hyfforddiant First Milk Matters i staff nad ydynt yn staff iechyd sy'n gweithio gyda theuluoedd. |
|
Aeth 35 o staff i’r hyfforddiant a dangosodd gwerthusiadau ar ôl y cwrs gynnydd mewn gwybodaeth a hyder ynghylch bwydo babanod. |
|
Mae'r canlyniadau mesuradwy a nodwyd uchod yn dangos bod elfennau unigol y prosiect wedi'u cyflawni’n llwyddiannus.
Cynhaliwyd cyfweliadau hefyd â chyfranogwyr mewn gwahanol rolau, gan ddangos y budd i bartneriaid y prosiect, gwirfoddolwyr, teuluoedd a’r sawl a oedd yn bresennol ar yr hyfforddiant First Milk Matters.
Adroddodd pob grŵp a oedd yn rhan o’r broses yr effaith ar ddiwylliant bwydo ar y fron yn y cymunedau targed, ac roedd gan deuluoedd fynediad at gefnogaeth bellach yn yr ardaloedd hynny lle’r oedd bwydo â photel yn norm.
Un o gyfyngiadau'r prosiect oedd bod y cyllid yn un tymor byr. Nododd yr adroddiad gwerthuso fod ymyriadau bwydo ar y fron yn cymryd amser i wreiddio a bod yr effeithiau, e.e. ar gyfraddau bwydo ar y fron, yn cynyddu’n raddol dros amser.
Mae BIPAB wedi ariannu blwyddyn bellach o hyfforddiant a goruchwyliaeth ar gyfer cefnogaeth gan gymheiriaid, sy’n cyd-fynd â’r gwaith ffocws ar fwydo ar y fron fel rhan o ddull system gyfan tuag at bwysau iach.
“Dros amser, mae’n debygol y bydd hyn yn cynyddu’r canfyddiadau o fwydo ar y fron yn y cymunedau hyn lle mae bwydo â photel fel arfer yn norm. Bydd hyn yn treiddio i gynnydd o ran cychwyn bwydo ar y fron a’i welededd, profiadau a rennir lle mae bwydo ar y fron bellach wedi'i gynnwys ac yn fwy cyffredin, ac yn y pen draw, cyfraddau bwydo ar y fron gwell.”
“Mae pobl yn dechrau bod ychydig yn fwy chwilfrydig am fwydo ar y fron ac eisiau darganfod ychydig yn fwy amdano.” Arweinydd bwydo babanod
““Dydw i ddim ar fy mhen fy hun ac mae gen i bobl i droi atyn nhw pan fyddaf angen cymorth.” Mam, a gafodd fynediad at grŵp cymorth newydd