Neidio i'r prif gynnwy

Anhwylder Datblygu Iaith (ADI)

Beth yw ADI?

  • Anhwylder Datblygu Iaith (ADI) yw pan fydd person yn cael anawsterau hirdymor gyda siarad a deall iaith. Yn Saesneg ydy ‘Developmental Language Disorder’ (DLD).
  • Bydd yn effeithio ar bob iaith mae'n ei siarad.
  • Nid yw'n cael ei achosi gan gyflyrau meddygol eraill fel colli clyw, awtistiaeth, anawsterau dysgu difrifol.
  • Roedd ADI yn arfer cael ei alw'n Amhariad Iaith Penodol.
  • Nid oes unrhyw achos hysbys o ADI - felly gall ei gwneud hi'n anodd ei esbonio.
  • Gall ADI fod yn 'gudd', efallai na fydd anawsterau gydag iaith yn amlwg. Fodd bynnag, mae ADI yn effeithio ar 7% o'r boblogaeth, hynny yw 2 blentyn ym mhob ystafell ddosbarth.

 

Beth mae ADI yn effeithio arno?

  • Deall cwestiynau, cyfarwyddiadau neu wybodaeth.
  • Defnyddio brawddegau, rhoi geiriau yn y drefn gywir, defnyddio'r gramadeg cywir.
  • Dysgu geiriau newydd, defnyddio llawer o eiriau gwahanol a meddwl am y gair cywir.
  • Adrodd stori neu ddisgrifio beth sydd wedi digwydd.
  • Cofio beth sydd wedi'i ddweud.
  • Seiniau lleferydd (siarad yn glir).

 

Sut bydd ADI yn effeithio ar fy mhlentyn?

  • Mae ADI yn edrych yn wahanol i bob person. Bydd anawsterau yn newid dros amser, wrth i’r plentyn fynd yn hŷn ac wrth i'r mathau o iaith sydd angen iddo eu deall a'u defnyddio newid. Efallai y byddwch yn gweld anawsterau yn cael mwy o effaith ar adegau pontio (e.e. symud i fyny i'r ysgol uwchradd).
  • Gall effeithio ar ddysgu neu gyfeillgarwch.
  • Mae llawer o blant â ADI hefyd yn cael anawsterau gyda'u sylw a gyda darllen. Gallant gael ADHD a / neu Ddyslecsia ochr yn ochr â ADI, mae hyn yn gyffredin.
  • Gall plant â ADI wneud yn dda a symud ymlaen gyda'u dysgu a gwneud ffrindiau. Bydd gwybod sut orau i'w cefnogi a sut maen nhw'n dysgu yn cefnogi eu cynnydd parhaus.

 

Sut gall Therapi Iaith a Lleferydd (SLT) helpu? Rôl SLT:

  • Nodi a diagnosio ADI, asesu iaith i weithio allan beth yw cryfderau eich plentyn a beth sydd angen cymorth arno.
  • Ymyrraeth dan arweiniad anghenion, bydd hyn yn edrych yn wahanol i bob plentyn â ADI ac ni fydd angen ymyrraeth yn uniongyrchol gan Therapydd Iaith a Lleferydd. Gall gynnwys sesiynau i weithio ar rannau penodol o iaith neu leferydd neu gallai fod yn cefnogi teuluoedd ac ysgolion gyda'r strategaethau y gallant eu defnyddio i gefnogi plentyn.
  • Codi ymwybyddiaeth o ADI, helpu pobl i ddeall y diagnosis a'r ffyrdd gorau o helpu.
  • Helpu plant i gyfathrebu hyd eithaf eu gallu. Nid oes 'iachâd' ar gyfer DLD, mae'n gyflwr hirdymor. Nod Therapi Iaith a Lleferydd yw helpu plant i allu cyfathrebu, dysgu a gwneud ffrindiau trwy ddefnyddio strategaethau a helpu pawb o'u cwmpas i ddeall sut i'w helpu bob dydd.

 

Sut alla i gefnogi fy mhlentyn/person ifanc?

  • Tynnwch ei sylw cyn siarad ag ef/hi. Dywedwch ei enw, gwnewch yn siŵr ei fod yn gallu eich gweld chi pan fyddwch chi'n siarad.
  • Defnyddiwch iaith syml ac ailadroddwch yn aml i gefnogi dysgu cof a geiriau.
  • Rhowch amser iddo brosesu beth rydych chi wedi'i ddweud ac ymateb. Ceisiwch roi o leiaf 10 eiliad ychwanegol, os nad ydych chi'n siŵr.
  • Defnyddiwch gymorth gweledol – gallai hyn fod yn luniau, arwyddion, ystumiau, ysgrifennu, dangos.
  • Gwiriwch ei fod wedi deall y cyfarwyddiadau neu'r wybodaeth, gofynnwch iddo ddweud wrthych chi beth ofynnwyd iddo ei wneud.
  • Ailadroddwch beth mae’n ei ddweud gan ddefnyddio'r geiriau cywir, brawddegau llawn a/neu seiniau cywir.
  • Rhowch lawer o ganmoliaeth a dywedwch wrtho beth wnaeth yn dda.
  • Dilynwch ei arweiniad, siaradwch am beth mae ganddo ddiddordeb ynddo. Defnyddiwch hyn i fodelu (dangos iddo) sut i ddefnyddio brawddegau da neu eiriau newydd. Ceisiwch fodelu/dangos iaith yn fwy na gofyn cwestiynau.
  • Siarad mewn gweithgareddau bob dydd (e.e. chwarae, rhannu llyfrau, gwylio'r teledu, bwyta prydau bwyd, cerdded i'r ysgol, siopa, yn y parc), mae hyn yn gwneud iaith go iawn ac yn berthnasol.
  • Anogwch y plentyn i gyfathrebu sut bynnag y gall, bydd hyn yn newid dros amser.

 

Dolenni Defnyddiol i Rieni

 

Dolenni Defnyddiol i Ysgolion

Dilynwch ni: