Yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, rydyn ni am i'ch profiad geni fod mor gadarnhaol a boddhaus â phosib. Mae dewis ble i roi genedigaeth yn benderfyniad personol iawn, ac rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o opsiynau sy'n addas i'ch anghenion. Mae'r daflen hon wedi ei chynllunio i roi trosolwg i chi o'r mannau geni sydd ar gael yng Nghwm Taf Morgannwg. Bydd rhagor o wybodaeth am fannau geni a chynllunio geni yn cael ei darparu drwy gydol eich beichiogrwydd.