Bydd y gwasanaeth yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer pobl sydd:
- Ag anhwylder meddwl posibl neu sefydledig sy’n ymwneud ag ymddygiad troseddol difrifol,
- Yn dangos risg ddifrifol wirioneddol neu bosibl i eraill, sy’n gysylltiedig â’u hanhwylder meddwl,
- Ar gyfer pobl y gallai fod angen sgiliau/cyfleusterau arbenigol y gwasanaeth fforensig cymunedol ar gyfer eu hasesiad/triniaeth.
Bydd atgyfeiriadau fel arfer yn dod o’r canlynol:
Bydd y Gwasanaeth Cyswllt Cyfiawnder Troseddol yn cefnogi atgyfeiriadau gan gydweithwyr Cyfiawnder Troseddol ac Iechyd o fewn gorsafoedd heddlu, llysoedd a gwasanaethau prawf, lle mae amheuaeth o anhwylder meddwl neu hunan-niweidio.
Bydd y gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl Fforensig yn cefnogi atgyfeiriadau gan:
- Wasanaethau iechyd meddwl cymunedol presennol sy'n cyflwyno risgiau difrifol i eraill, sy'n gysylltiedig ag anhwylder meddwl wedi'i ddiagnosio.
- Cleifion mewnol sy'n destun gorchmynion ysbyty mewn gofal diogel.
- Cleifion a ryddhawyd yn amodol (a gadwyd yn flaenorol o dan Adran 37 gyda chyfyngiadau adran 41).
- Cleifion ar drwydded (wedi cwblhau rhan o'u dedfryd yn y carchar ond yn destun amodau trwydded parhaus tra bod gweddill eu dedfryd yn cael ei chyflawni yn y gymuned).
- Cleifion penodol ar Orchmynion Cymunedol a dedfrydau gohiriedig gyda chyflyrau seiciatrig
|