Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol

Beth rydyn ni’n ei wneud

Mae Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol i unigolion o bob oed sy’n cael problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol, sefydlog, neu ddifrifol iawn a pharhaus. Mae pum lleoliad gyda ni – Rhondda, Taf Elái, Cwm Cynon, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae’r Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol yn gweithredu naill mewn meddygfeydd neu ar y cyd â nhw. Cyn i ni gynnig asesiad, bydd angen atgyfeiriad cyfoes arnom ni gan feddygfa gofrestredig.

Beth i'w ddisgwyl

Rydyn ni’n darparu asesiadau iechyd meddwl yn canolbwyntio ar nodau, ac rydyn ni hefyd yn cynnig triniaeth ar ffurf ymyriadau seicolegol tymor byr mewn grwpiau neu’n unigol.

Gallwn ni roi gwybodaeth a chyngor i unigolion a gofalwyr a’u cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth, gan gynnwys sefydliadau trydydd sector. Gallwn ni gyfeirio pobl at wasanaethau eraill hefyd a chydlynu’r camau nesaf trwy ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, os yw hyn yn briodol i’r unigolyn.

Cysylltwch â ni

Rhif ffôn: 01443 803940

Cyfeiriad e-bost cleifion ar gyfer ymholiadau: ctm.patientenquiries.lpmhss@wales.nhs.uk

 

Dilynwch ni: