Mae Gofal Critigol yn uned ysbyty gymhleth lle mae Tîm Amlddisgyblaethol mawr, gan gynnwys y rolau sy’n cael eu rhestri isod, yn cefnogi cleifion. Mae trosolwg byr o rolau gwahanol staff ym maes Gofal Critigol isod. Gall hyn fod ychydig yn wahanol o uned i uned ond dylai'r wybodaeth sylfaenol fod yr un fath a gobeithiwn y bydd yn ddefnyddiol i chi wybod gyda phwy y dylech siarad os oes unrhyw gwestiynau neu bryderon gyda chi.
Mae nyrsys sy'n gweithio mewn Gofal Critigol yn cael hyfforddiant ychwanegol helaeth ac maen nhw’n tra medrus yn y maes arbenigol hwn. Mae cleifion ar Ofal Critigol yn cael eu nyrsio ar sail un wrth un oherwydd y lefel uchel o wybodaeth a sgiliau y gall fod eu hangen ar gyfer gofal y claf. Mae hyn yn cynnwys asesu a monitro eu cyflwr yn agos i nodi unrhyw broblemau yn gyflym ac yna cymryd camau i gywiro'r problemau hyn. Mae'r wybodaeth a'r sgil dechnegol hon yn caniatáu iddyn nhw ofalu'n ddiogel am y claf a'r dyfeisiau meddygol cymhleth a ddefnyddir yn yr ardal.
Mae'r staff nyrsio yn weladwy ac yn hygyrch iawn i'r rhai sydd ag anwyliaid ar Ofal Critigol ac yn aml nhw yw'r pwynt cyswllt cyntaf sydd gan deuluoedd yn y maes Gofal Critigol. Efallai y bydd y nyrsys yn gofyn cwestiynau amdanoch chi/eich anwylyd i helpu i ddeall sut oedden nhw cyn cael eu derbyn, pa mor dda oedden nhw a beth yw eu dewisiadau. Bydd y Tîm Amlddisgyblaethol yn defnyddio'r wybodaeth hon i helpu i gynllunio eu gofal, a bydd yn gweithredu fel eiriolwr ar gyfer y claf a'i deuluoedd i helpu i gynrychioli eu dymuniadau i weddill y Tîm Amlddisgyblaethol. Mae'r tîm nyrsio yn croesawu trafodaeth gyda chleifion ac anwyliaid, a gallan nhw egluro llawer o'r therapïau a'r ymyriadau y gallech eu gweld yn yr ardal Gofal Critigol. Gallan nhw hefyd eich cyfeirio at unrhyw gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnoch.
Efallai y byddwch hefyd yn gweld myfyrwyr ochr yn ochr â'r nyrsys sy'n rhan bwysig o baratoi'r genhedlaeth nesaf ac sy'n ennill sgiliau a phrofiad hanfodol.
Mae'r Tîm Allgymorth Gofal Critigol yn grŵp o ymarferwyr uwch (neu ymarferwyr uwch dan hyfforddiant) sy'n tra arbenigo mewn gofalu am gleifion sy'n ddifrifol wael y tu allan i'r Uned Gofal Critigol. Yn ogystal, mae'r tîm yn darparu gwasanaeth dilynol i gefnogi'r holl gleifion sydd wedi gwella o salwch critigol ac wedi trosglwyddo i ofal ward.
Gweler adran y Tîm Allgymorth Gofal Critigol ar ein gwefan i gael rhagor o fanylion.
Meddygon Ymgynghorol yw Dwysegwyr sy'n darparu gofal arbenigol i gleifion sy'n ddifrifol wael ac yn arwain y Tîm Amlddisgyblaethol ar Ofal Critigol. Yn y DU, mae gan feddygaeth Gofal Dwys ei llwybr hyfforddi pwrpasol ei hun. Mae gan ddwysegwyr gyfrifoldeb cyffredinol dros y cleifion ac maen nhw’n arwain cylchdro o gwmpas y ward y Tîm Amlddisgyblaethol. Yn ystod y cylchdroeon o amgylch y ward hyn, mae'r tîm yn trafod ac yn adolygu'r digwyddiadau o'r 24 awr ddiwethaf ac mae hyn yn llywio penderfyniadau'r dydd a chynllun triniaeth pob claf. Mae dwysegwyr hefyd yn debygol o fod y gweithwyr proffesiynol sy'n cysylltu ag anwyliad pob claf, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am eu cynnydd wrth iddyn nhw gael eu derbyn i Ofal Critigol.
Yn aml, bydd ystod eang o gyffuriau, fel arfer mewn dosau amrywiol, yn cael eu presgripsiynu i gleifion mewn Gofal Critigol. Mae fferyllwyr yn cymryd rhan yn y cylchdro dyddiol o amgylch y ward ac yn cynghori ynghylch a all moddion gael eu newid i gefnogi'r claf yn well wrth iddyn nhw gael triniaeth ac yn ystod eu hadferiad. Maen nhw hefyd yn gweithio'n agos gyda dietegwyr ynghylch anghenion maeth a bwydo'r claf.
Mae gan ddietegwyr mewn Gofal Critigol hyfforddiant arbenigol i ddeall sut i reoli anghenion maethol cymhleth cleifion mewn Gofal Critigol. Gall cleifion sy'n ddifrifol wael brofi diffyg maeth, newidiadau mewn patrymau bwyta, archwaeth wael neu ormodol, neu anallu i fwyta. Mae hyn yn effeithio ar adferiad ac adsefydlu. Mae'r Dietegydd yn nodi cleifion sydd â diffyg maeth neu sydd mewn perygl maethol a bydd yn gwneud cynlluniau triniaeth maeth yn seiliedig ar bwysau'r claf, gofynion penodol a natur ei salwch i gefnogi ei adferiad.
Mae gan ffisiotherapyddion ddwy brif swyddogaeth ym maes Gofal Critigol: rheoli anghenion anadlol (anadlu) ac adsefydlu corfforol.
Bydd ffisiotherapyddion yn helpu cleifion i anadlu'n annibynnol drwy helpu i gadw eu brestiau’n glir o fwcws er mwyn atal heintiau'r ysgyfaint. Byddan nhw’n asesu cleifion mewn gofal critigol ar gyfer anawsterau anadlu neu besychu, gan ddefnyddio technegau i helpu i glirio secretiadau (mwcws) o’u brest i helpu i wneud anadlu'n haws. Maen nhw hefyd yn aelodau craidd o'r tîm o glinigwyr sy'n cefnogi cleifion gyda thraceostomi (tiwb drwy'r gwddf ac i mewn i'r bibell wynt i helpu anadlu) ac yn helpu i wneud y cynllun i dynnu'r tiwb traceostomi pan nad oes ei angen mwyach.
Mae ffisiotherapyddion hefyd yn cefnogi adferiad corfforol pob claf. Mae cleifion sy'n cael eu derbyn i Ofal Critigol yn aml yn profi gwendid yn y cyhyrau. Mae adsefydlu yn rhan bwysig o rôl y Ffisiotherapydd a, gyda chymorth gan weddill y Tîm Amlddisgyblaethol, eu nod yw adfer eich gallu i symud i’r lefel yr oedd cyn cael eich derbyn i’r ysbyty cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl. Unwaith y bydd claf yn ddigon iach, mae Ffisiotherapyddion yn cefnogi adsefydlu drwy eu hannog i eistedd, sefyll a cherdded.
Mae Therapyddion Galwedigaethol yn hyrwyddo gallu claf i gwblhau ei arferion dyddiol a'i weithgareddau sy’n bwysig iddo/iddi. Mae Therapyddion Galwedigaethol yn gweithio gydag unigolion mewn Gofal Critigol i'w helpu i adennill eu hannibyniaeth gan ddefnyddio technegau ac offer i'w cefnogi wrth iddyn nhw wella. Ar hyn o bryd mae'r Tîm Therapi Galwedigaethol yn gweithio gyda gwasanaeth gyda llai o staff, ac felly gall gwasanaethau fod yn wahanol ym mhob safle Gofal Critigol ar draws BIP CTM.
Gallan nhw weithio gyda'r Tîm Amlddisgyblaethol ehangach i hyrwyddo a pharhau â gofal personol annibynnol ar Ofal Critigol, cwblhau asesiadau breichiau a choesau a darparu technegau ar gyfer ymestyn, ymarferion a safle.
Mae Therapyddion Iaith a Lleferydd (SALT) yn cael hyfforddiant arbenigol mewn problemau gyda'r trwyn, y bibell wynt, yr ysgyfaint a'r tiwb llyncu. Ar hyn o bryd, mae'r Tîm Iaith a Lleferydd yn gweithio gyda gwasanaeth gyda llai o staff ac felly gall gwasanaethau fod yn wahanol ym mhob safle Gofal Critigol ar draws BIP CTM.
Yn aml, gall cleifion sydd wedi cael eu rhoi ar beiriant anadlu ar Ofal Critigol gael anhawster cyfathrebu, bwyta ac yfed. Mae Therapyddion Lleferydd yn darparu asesiad, ymyrraeth a chyngor i gefnogi cleifion i ddychwelyd i siarad, bwyta ac yfed. Maen nhw hefyd yn aelodau craidd o'r tîm sy'n cefnogi cleifion gyda thraceostomi, a'u nod yw ailgyflwyno siarad, bwyta ac yfed cyn gynted ag y bydd hi’n ddiogel gwneud hynny.
Mae Seicolegwyr Clinigol sy'n gweithio ym maes Gofal Critigol wedi'u hyfforddi'n arbennig i drin a rheoli ymatebion seicolegol cyffredin yn dilyn salwch critigol. Mae gan bob Gofal Critigol lefel wahanol o staff seicolegol ac felly mae eu rôl yn amrywio. Mae yna hefyd Seicolegwyr Cynorthwyol sy'n gweithio ym maes Gofal Critigol sydd heb gymwysterau clinigol, ond sy'n gweithio dan oruchwyliaeth Seicolegydd Clinigol i gefnogi cleifion gyda'u profiadau o fod yn ddifrifol wael.
Gall staff seicoleg ddarparu cefnogaeth gyda hwyliau, pryder a Deliriwm yn yr Uned gofal dwys ar wardiau a’r Uned Gofal Critigol. Maen nhw hefyd yn cefnogi lles staff ac yn gweithio fel rhan o Wasanaeth Cymorth i Deuluoedd i gynnig cefnogaeth seicolegol i anwyliaid unigolion sydd ar Ofal Critigol.
Maen nhw’n gweithio fel rhan o'r Tîm Amlddisgyblaethol i helpu cleifion hirdymor gyda chynllunio nodau a gallan nhw ddarparu sesiynau ar y cyd gyda staff Gofal Critigol eraill. Mae Seicolegwyr Clinigol hefyd yn rhan o'r Tîm Dilynol Adfer a Gwella Uned Gofal Dwys i asesu ar gyfer unrhyw broblemau seicolegol cyffredin ar ôl cael eu rhyddhau o Ofal Critigol fel pryder, iselder ac Anhwylder Straen Wedi Trawma. Os canfyddir problemau, gall cleifion neu eu perthnasau gael mynediad i'r Gwasanaeth Seicoleg Gofal Critigol mewnol ar gyfer therapi seicolegol 1:1.