Gall goroeswyr Gofal Critigol brofi proses derbyn anodd, gydag anwyliaid, teulu a ffrindiau hefyd yn cael yr amser hwn yn heriol er gwaethaf y cymorth rydym yn anelu at ei ddarparu.
Fel tîm, rydym wedi ymrwymo i ddysgu a gwella drwy’r amser gan ymdrechu i ddarparu’r gofal gorau i bob claf a theulu rydym yn cwrdd â nhw. Hoffem glywed eich adborth ar y gwasanaeth a ddarparwn, gan gynnwys pethau a aeth yn dda, i ddiolch i rywun a wnaeth wahaniaeth neu i ddweud wrthym sut y gallem fod wedi gwneud yn well.
Mae croeso i chi gynnig yr adborth hwn i staff mewn Gofal Critigol. Neu fel arall, defnyddiwch weithdrefn y Bwrdd Iechyd i gofnodi cwynion a phryderon. I gael rhagor o wybodaeth am hwn, ewch i: https://bipctm.gig.cymru/cysylltwch-a-ni/pryderon-a-chwynion/
PALS (Gwasanaeth Cymorth a Chyswllt Cleifion)
I gael rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt, dilynwch y ddolen hon: PALS (Gwasanaeth Cymorth a Chyswllt Cleifion)