Rydyn ni’n ffisiotherapyddion arbenigol, sydd wedi cael ein hyfforddi ym maes iechyd y pelfis. Yn rhan o hyn, gallwn ni helpu os ydych chi’n cael problemau gyda llawr eich pelfis.
Mae llawr y pelfis yn bwysig i lawer o brosesau gwahanol. Mae'r rhain yn cynnwys rheoli ymataliaeth y bledren a'r coluddyn, cefnogi ein cynnwys abdomen a'r pelfis (gan gynnwys ein babanod pan fyddwn yn feichiog), darparu sefydlogrwydd i'n asgwrn cefn a'n pelfis a helpu gyda sut mae ein organau rhywiol yn gweithio.
Os dydy cyhyrau llawr y pelfis ddim yn gweithio’n iawn (sy’n gyffredin ymhlith menywod) efallai y byddwch chi’n teimlo poen neu’n dioddef o symptomau oherwydd gwendid yng nghyhyrau llawr y pelfis. Gall hyn gynnwys anymataliaeth (gollwng wrin wrth besychu neu wrth wneud ymarfer corff), prolaps neu boen wrth gael rhyw. Gallwn ni gynnig sesiynau triniaeth ffisiotherapi ac asesu i fenywod sy’n cael problemau gyda llawr y pelfis, er mwyn ceisio gwella symptomau, ansawdd eu bywyd a chynnal neu adfer gweithrediad arferol.
Ar hyn o bryd mae ein gwasanaeth ar gyfer unigolion dros 16 oed sy'n profi problemau gan gynnwys:
Mae modd i’ch meddyg teulu, bydwraig, ymgynghorydd, nyrs ymataliaeth neu therapydd arall eich atgyfeirio.
Gallwch chi hefyd atgyfeirio eich hun drwy ffonio 01443 715012 i gael ffurflen hunan-asesu
Oriau agor
Dydd Llun i ddydd Gwener 8am – 4pm
Bydd ein tîm gweinyddol yn cysylltu â chi naill ai dros y ffôn neu drwy’r post. Byddwch yn cael eich gwahodd i sesiwn addysg llawr y pelfis i ddechrau. Bydd y sesiwn hwn yn rhoi llawer o wybodaeth werthfawr i chi am gyhyrau llawr y pelfis a’u rôl yn iechyd y prolaps ac anymataliaeth, ynghyd â llawer o gyngor defnyddiol am sut i ddechrau cymryd rheolaeth o’ch symptomau. Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n dod i'r dosbarth cyn mynychu'r apwyntiad cyntaf. Ar ôl y dosbarth, gallwch wedyn drefnu asesiad unigol gyda ffisiotherapydd iechyd y pelfis arbenigol benywaidd, a fydd yn cael ei gynnal mewn ystafell driniaeth breifat. Efallai bydd angen gwneud asesiad o’r tu fewn i’ch gwain a/neu eich rectwm er mwyn asesu cyhyrau llawr y pelfis a phenderfynu ar y driniaeth sydd orau i chi.
Os ydych chi am i rywun fod yno yn ystod yr asesiad, rhowch wybod i ni ymlaen llaw fel bod modd i ni drefnu hyn.
Peidiwch ag aildrefnu apwyntiad yn ystod eich mislif, gan fod opsiynau eraill ar gael o ran triniaeth ac asesu bob tro ar yr adeg hon.
Dewch â rhestr gyda chi o’r moddion rydych chi’n eu cymryd ar hyn o bryd hefyd.
Gallwch chi gysylltu â’n tîm gweinyddol trwy ffonio 01443 715012. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig apwyntiadau yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Cwm Cynon, ac Ysbyty'r Tywysog Siarl. Os byddai’n well gyda chi gael eich asesu a’ch trin yn y Gymraeg, mae hyn yn bosibl ar hyn o bryd yn Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar. Gofynnwch am hyn wrth ffonio i drefnu eich apwyntiad. Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl os na allwch chi ddod i’r apwyntiad oedd wedi ei drefnu. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i ni i gynnig yr apwyntiad i rywun arall, a thrwy wneud hynny gadw ein rhestrau aros mor fyr â phosibl. Os na fyddwch chi’n dod i’r apwyntiad heb ddweud ymlaen llaw, mae’n bosibl y byddwch chi’n cael eich rhyddhau o’r gwasanaeth.
Rydyn ni’n croesawu adborth ac awgrymiadau gan gleifion am sut y gallwn ni barhau i wella ar y gwasanaeth, felly mae croeso i chi gysylltu i roi eich sylwadau neu os ydych chi am siarad ag aelod o dîm iechyd y pelfis yr Adran Ffisiotherapi.