 
				
			
			Os oes gennych un o'r problemau canlynol ac yn meddwl bod angen i chi weld meddyg, efallai y bydd eich fferyllfa gymunedol leol yn gallu eich helpu o dan y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin.
Acne
Rhinitis alergaidd
Tarwden y traed (Athlete’s Foot)
Poen cefn (isaf, acíwt)
Brech yr ieir (mewn plant dan 14 oed)
Cyngor ar ddolur annwyd
Colig (baban)
Llid yr amrannau (bacterol)
Rhwymedd
Cyngor ar ddolur rhydd
Llygaid sych
Croen sych (gan gynnwys llid ar y croen ac ecsema atopig)
Diffyg traul
Haemoroidau
Llau pen
Cyngor ar ewinedd traed sy'n tyfu i mewn
Wlser yn y geg
Brech cewynnau
Llindag y geg
Tarwden (ringworm)
Clefyd crafu
Dolur gwddf
Trafferthion tyfu dannedd
Edeulyngyr (threadworms)
Heintiad y llwybr wrinol (UTI)
Llindag y wain (thrwsh)
Dafadennau a ferrucâu
Gofynnwch i'ch fferyllydd lleol am y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin.
Sylwch, bod y gwasanaeth hwn yn amodol ar argaeledd fferyllwyr ac efallai bydd gofyn i chi aros ychydig neu drefnu slot amser apwyntiad. Edrychwch ar wefan GIG 111 Cymru neu cysylltwch â'ch fferyllfa gymunedol leol i weld a yw'r gwasanaeth hwn ar gael.
Gall fferyllwyr roi cyngor i chi hefyd ynglŷn â moddion presgripsiwn a moddion dros-y-cownter.