Mae apwyntiadau meddyg teulu ac apwyntiadau eraill bellach yn digwydd dros y ffôn a thrwy sgwrs fideo yn ogystal ag apwyntiadau wyneb yn wyneb.
Os oes angen apwyntiad wyneb yn wyneb yn glinigol, bydd y practis meddyg teulu yn gwneud trefniadau i chi fynychu'r practis yn wyneb yn wyneb.
Beth bynnag fo math eich apwyntiad, byddwch yn dal i dderbyn yr un safon uchel o gymorth a gofal gan y GIG.
Os oes poen ddifrifol gyda chi yn y frest, os ydych chi ar fin llewygu, os oes anawsterau anadlu difrifol gyda chi, os ydych chi’n teimlo’n wan ar un ochr neu’n siarad yn aneglur neu’n gwaedu’n ddifrifol, peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu.
FFONIWCH 999 AR UNWAITH
Sylwch, mae meddygon teulu yn gontractwyr annibynnol a gallan nhw ddewis gweithredu'n wahanol i practisiau eraill.
Ledled Cymru, bydd amrywiaeth o wahanol opsiynau ar gael i chi gael mynediad at ofal iechyd.