Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad cam nesaf ymgysylltu cyhoeddus ar gyfer Maesteg a Chwm Llynfi.
Ar ôl 4 wythnos o godi ymwybyddiaeth ddigidol, rydym bellach yn dechrau cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu cymunedol drwy gydol mis Hydref a mis Tachwedd, lle bydd cydweithwyr o'r Bwrdd Iechyd yn cwrdd â phobl yn y gymuned leol, mewn lleoliadau adnabyddus ac hygyrch.
Yn ystod y ddau fis nesaf, rydym am gael sgyrsiau am:
✅ Canolfan Iechyd a Lles Cwm Llynfi newydd arfaethedig ar Heol Ewenni, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i’r cyllid yn y dyfodol.
✅ Dyfodol safle Ysbyty Cymunedol Maesteg, yn dilyn agor y Ganolfan Iechyd a Lles Cwm Llynfi newydd arfaethedig ar Heol Ewenni.
✅ Gwella mynediad lleol at wasanaethau iechyd a lles
✅ Gwrando ar brofiadau, syniadau a phryderon trigolion lleol, grwpiau cymunedol a phartneriaid.
Rydym am glywed gan yr ystod ehangaf bosibl o leisiau ar draws Maesteg a Chwm Llynfi; felly, rhannwch y wybodaeth hon gyda'ch teulu, eich ffrindiau a'ch rhwydweithiau ehangach er mwyn i gynifer o bobl â phosibl allu cymryd rhan.
| Dyddiad | Amser | Lleoliad | Cyfeiriad |
| Dydd Mawrth 6eg Hydref 2026 | 10yb - 12yp | ASDA | Stryd y Castell, Maesteg, CF34 9UN |
| Dydd Iau 8fed Hydref 2026 | 10yb - 12yp | Swyddfeydd Cyngor Maesteg | Stryd Talbot, Maesteg, CF34 9BY |
| Dydd Mawrth 13eg Hydref 2026 | 12yp - 2yp | Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau | Canolfan Gymunedol, Teras Coedwig, Caerau, Maesteg, CF34 0SR |
| Dydd Gwener 16eg Hydref | 10yb - 12yp | Neuadd Dref/Llyfrgell Maesteg | 27 Stryd Talbot, Maesteg, CF34 9DA |
| Dydd Mawrth 27ain Hydref 2026 | 9yb - 12yp | Canolfan Chwaraeon Maesteg (Halo) | Safle'r Hen Efail, Maesteg, CF34 9UY |
| Dydd Mercher 28ain Hydref 2026 | 10yb - 12yp | Tesco | Stryd y Castell, Canol y Ddinas, Maesteg, CF34 9DS |
| Dydd Llun 2ail Tachwedd 2026 | 9.30yb - 1.30yp | Diwrnod Agored Teuluoedd Arbennig Maesteg | Canolfan Fairfield, Sgwâr Dewi Sant, Maesteg, CF34 9LR |
| Dydd Gwener 6ed Tachwedd 2026 | 1yp - 3yp | Asda | Stryd y Castell, Maesteg, CF34 9UN |
| Dydd Gwener 13fed Tachwedd 2026 | 10yb - 12yp | Swyddfeydd Cyngor Maesteg | Stryd Talbot, Maesteg, CF34 9BY |
| Dydd Gwener 20fed Tachwedd 2026 | 10.30yb - 12yp | Shediau Dynion Caerau - Capel Dyffryn | Stryd y Bedw, Maesteg, CF34 0TF |
| Dydd Sadwrn 21ain Tachwedd 2026 | 9yb - 12yp | Canolfan Chwaraeon Maesteg (Halo) | Safle'r Hen Efail, Maesteg, CF34 9UY |
Sylwch: Digwyddiadau cymunedol (gan gynnwys manylion lleoliadau ac amseroedd), yn cael eu diweddaru'n rheolaidd ar y dudalen hon wrth i ddigwyddiadau newydd gael eu cadarnhau, felly, cofiwch wirio'n rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf. Gallwch hefyd ddod o hyd i'r wybodaeth hon ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.