Rydym am glywed eich barn chi ar ddyfodol gwasanaethau iechyd a lles ym Maesteg a Chwm Llynfi.
Bydd eich adborth yn helpu i lywio’r cynlluniau ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles newydd arfaethedig ar Heol Ewenni (yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i’r cyllid) a defnydd y safle yn Ysbyty Cymunedol Maesteg yn y dyfodol.
Cymerwch ran yn ein harolwg byr i rannu'r hyn sydd bwysicaf i chi, eich teulu a'ch cymuned, a dywedwch wrthym am eich syniadau ar gyfer gwasanaethau lleol yn y blynyddoedd i ddod.