Rydym yn gwybod, ac wedi clywed eto yr wythnos ddiwethaf, fod Ysbyty Cymunedol Maesteg yn bwysig i bobl leol ac wedi bod yn rhan o'r gymuned ers cenedlaethau. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cydnabod ac yn parchu treftadaeth yr adeilad a’r rhai a’i hadeiladodd, ac mewn ymateb i’r adborth a gafwyd hyd yma roeddem am roi’r wybodaeth ganlynol.
Cyfrannodd y ffactorau allweddol hyn at y penderfyniad i fwrw ymlaen â chynllun ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles newydd yn Oakwood Drive, ger Heol Ewenni.
🏥Oed a Chyflwr yr Adeilad
Mae'r ysbyty dros 110 mlwydd oed ac wedi gwasanaethu'r gymuned yn dda ers cenedlaethau, ond mae angen adeiladau ar wasanaethau modern sy'n:
Mae cyflwr a chynllun yr adeilad, a ffactorau eraill sy'n ymwneud â safle'r ysbyty, yn ogystal â'r arian a allai fod ar gael, yn gwneud ailddatblygu'r ysbyty yn dasg heriol iawn.
💙Gwasanaethau Sy'n Diwallu Eich Anghenion
Yn 2023, dywedoch chi wrthym am y gwasanaethau iechyd a lles sydd bwysicaf i Gwm Llynfi.
Gallwn ddarparu llawer mwy o'r gwasanaethau hyn mewn adeilad newydd, modern a hygyrch. Dydy hi ddim yn bosibl darparu’r holl wasanaethau hyn yn Ysbyty Cymunedol Maesteg fel y mae ar hyn o bryd nac mewn ysbyty cymunedol wedi’i ailddatblygu.
✅Mae ein gwasanaethau arfaethedig mewn adeilad newydd yn cynnwys:
❗Nid oes penderfyniad wedi’i wneud ynghylch ei ddefnydd yn y dyfodol.
🚨Dweud eich Dweud
Rhannwch eich barn ar ddyfodol gwasanaethau iechyd a lles lleol ar gyfer Maesteg a Chwm Llynfi.
Helpwch i lunio cynlluniau ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles newydd arfaethedig yn Oakwood Drive, ger Heol Ewenni (yn amodol ar gymeradwyaeth ariannu gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol) ac i rannu eich syniadau ar gyfer defnydd Ysbyty Maesteg yn y dyfodol.
Cwblhewch ein harolwg byr: Arolwg - Helpu i lunio dyfodol gwasanaethau iechyd a lles ym Maesteg a Chwm Llynfi
03/11/2026