Os yw'ch glwcos yn y gwaed yn aros yn uchel am amser hir, gall effeithio ar sawl rhan o'ch corff:
Yr Ymennydd: Risg uwch o strôc
Ceg: Risg uwch o glefyd y deintgig a'r esgyrn sy'n cynnal y dannedd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n brwsio'ch dannedd bob dydd a chael archwiliadau deintyddol rheolaidd.
Y Croen: Mwy o heintiau ac iachâd arafach
Traed: Niwed i'r nerfau, heintiau, trychiadau (amputations)
Y Galon: Risg uwch o drawiad ar y galon
Arennau: Niwed neu fethiant i'r arennau
Llygaid: Problemau golwg neu ddallineb
OND—Gellir atal llawer o gymhlethdodau gyda gofal diabetes da!
Mae DKA yn gyflwr a allai fod yn peryglu bywyd a all effeithio ar bobl sydd â diabetes. Mae'n cael ei achosi gan ddiffyg inswlin yn y corff. Heb inswlin, nid yw'r corff yn gallu defnyddio glwcos yn y gwaed ar gyfer egni ac yn dechrau torri braster yn lle hynny. Mae hyn yn arwain at gynhyrchu asidau gwenwynig o'r enw cetonau.
Cael haint megis haint ar y frest neu haint y llwybr wrinol
Gall meddyginiaethau diabetes o'r enw atalyddion SGLT-2 (dyma'r meddyginiaethau sy'n gorffen gyda 'flozin') achosi DKA fel sgîl-effaith prin
Peidio â chymryd eich inswlin neu golli dosau
Bod yn sychedig iawn
Llewygu
Anadl melys neu ffrwythau, fel losin gellyg (pear-drop sweets)
Teimlo eich bod yn mynd i chwydu, neu’n chwydu
Poen yn y stumog
Golwg aneglur
Dryswch
Teimlo'n flinedig ac yn gysglyd
Angen troethi’n (urinate) amlach
Mae DKA yn argyfwng meddygol ac mae angen triniaeth frys yn yr ysbyty gydag inswlin a hylifau trwy ddiferu mewnwythiennol (IV).Os ydych chi'n amau DKA ffoniwch 999 yn syth.
Pan fyddwch chi'n sâl gall eich lefelau glwcos gael eu heffeithio. Nid yw'n anarferol canfod bod lefelau glwcos yn uwch, yn enwedig os oes gennych haint.
Os ydych chi'n sâl, rydym yn argymell eich bod yn cadw llygad agos ar eich lefelau glwcos yn y gwaed; Cynyddu eich dosau inswlin os yw eich lefelau glwcos yn y gwaed yn rhedeg yn uwch a hefyd yfed digon o hylifau.
Gall y camau uchod helpu i atal cronni cetonau yn eich corff a'ch helpu i wella'n gyflymach.
Dyma daflen ddefnyddiol ar beth i'w wneud os oes gennych ddiabetes math 1 ac yn sâl.