Rydym ni'n darparu gwasanaeth awdioleg i blant, yn cynnal profion clyw ac yn cynnig dyfeisiau clywed i blant a fyddai'n elwa o dderbyn un. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r tîm llawfeddygol Clust, Trwyn a Gwddf (ENT).
Mae plant yn cael eu hatgyfeirio at Awdioleg i gael asesiad clyw am nifer o resymau. Y rhai mwyaf cyffredin yw:
Unrhyw blentyn o dan 18 oed.
Dim ond os ydych chi wedi cael eich atgyfeirio gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol y gallwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. Os oes pryderon gyda chi ynghylch clyw eich plentyn, trafodwch hyn gyda'ch meddyg teulu neu eich ymwelydd iechyd a fydd yn trefnu atgyfeiriad i Awdioleg os yw'n briodol.
Oriau Agor
Dydd Llun - Dydd Gwener, 9:00 am - 5:00 pm
Yn ystod apwyntiad, byddwn yn cwblhau prawf (neu gyfuniad o brofion) sy'n briodol i oedran eich plentyn er mwyn pennu ei lefelau clyw a nodi unrhyw anawsterau clyw.
Gall hyn gynnwys mwy nag un ymweliad â'r clinig er mwyn creu set lawn o ganlyniadau, a / neu i fonitro clyw eich plentyn.
Bydd y meddyg neu'r awdiolegydd yn rhoi canlyniadau'r gwahanol brofion at ei gilydd i ddarganfod a oes gan eich plentyn unrhyw fath o anhawster clywed ac, os felly, pa rannau o'r glust a'r system glyw a allai gael eu heffeithio.
Mae batris cymorth clyw yn beryglus os cânt eu llyncu. Gofynnwch am sylw meddygol brys bob amser, hyd yn oed os yw'n ymddangos bod y person yn iawn.
Cadwch fatris allan o gyrraedd plant bob amser.
Peidiwch byth â storio batris gyda meddyginiaethau.
Mae cymhorthion clyw y gellir eu cloi yn cael eu rhoi i bob plentyn sy'n iau nag oedran ysgol ac sydd angen cymorth clyw. Gellir rhoi'r rhain i blant hŷn sy'n agored i niwed hefyd, neu'r rheini â brodyr a chwiorydd ifanc a allai gael gafael ar y cymorth clywed.
Os ydych wedi derbyn apwyntiad ar gyfer asesiad clyw yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Cwm Rhondda, Ysbyty Cwm Cynon neu Barc Iechyd Keir Hardie, cysylltwch â ni ar y rhif ar y llythyr neu 01443 443443 ( Est. 75307 ).
Ar gyfer apwyntiadau cymorth clyw a archebir fel arfer yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg neu Ysbyty Cwm Rhondda, cysylltwch â ni ar 01443 443283.
Ar gyfer apwyntiadau cymorth clyw a archebir fel arfer yn Ysbyty Cwm Cynon neu Barc Iechyd Prifysgol Kier Hardie, cysylltwch â ni ar 01685 728130.
Ar gyfer apwyntiadau asesu clyw a chymorth clyw yn Ysbyty Tywysoges Cymru, cysylltwch â ni ar 01656 752195.
www.nhs.uk/conditions/glue-ear
www.newbornhearingscreening.wales.nhs.uk