Neidio i'r prif gynnwy

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Wrth i ni barhau i adfer o'r pandemig, y nod yw cynnig brechiad i bobl sydd mewn mwyaf o beryg o gael afiechyd difrifol ac sydd felly yn fwyaf tebygol o gael budd o gael eu brechu. Mae COVID-19 yn fwy difrifol mewn pobl hŷn ac mewn pobl â rhai mathau o gyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes. Wrth i COVID-19 barhau i gylchredeg yng Nghymru, mae'n bwysig iawn eich bod chi'n amddiffyn eich hun a'ch plentyn (os yw hynny’n berthnasol), er mwyn lleihau'r perygl o fod angen triniaeth yn yr ysbyty.   

Mae Cymru’n dilyn polisi Llywodraeth Cymru ar bwy sy’n gymwys i gael brechiadau COVID-19. Mae’r polisi hwn yn seiliedig ar dystiolaeth ynghylch pwy sydd fwyaf mewn perygl o salwch difrifol a marwolaeth o COVID-19.  

Gall cael eich brechu rhag COVID-19 helpu i leihau’r nifer o farwolaethau a salwch difrifol. Amddiffynnwch eich hun a'ch gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.  

Bydd y bobl sydd mewn mwyaf o beryg o iechyd difrifol oherwydd haint COVID-19 yn cael cynnig brechiad yr hydref a'r gaeaf hwn. Rydym yn argymell eich bod yn cael eich brechu cyn gynted ag y bydd yn cael ei gynnig i chi.  


Rhaglen frechu'r hydref a'r gaeaf 

Pam rhai pobl angen brechiad COVID-19 yn ystod tymor yr hydref a'r gaeaf? 

Fel rhai brechlynnau eraill, mae'n bosib y bydd lefel yr amddiffyniad yn dechrau gwanhau dros amser. Bydd y dos tymhorol yn helpu i'ch amddiffyn am gyfnod hirach.  
Bydd hefyd yn helpu i leihau'r peryg o fod angen mynd i'r ysbyty oherwydd haint COVID-19. 

Pryd fydd y brechlyn tymhorol hydref a gaeaf yn cael ei roi? 

Os ydych chi'n gymwys i gael y brechlyn COVID-19, byddwch yn cael eich gwahodd i gael eich brechlyn yn ystod hydref/gaeaf 2024. Yn ddelfrydol dylai'r apwyntiad fod oddeutu chwe mis (a heb fod cyn tri mis) wedi eich dos diwethaf o'r brechlyn COVID-19.

Sut fyddaf yn cael fy mrechlyn?

Bydd y GIG yn cysylltu â chi i roi gwybod pryd ac ymhle i gael y brechlyn. Mae'n bwysig eich bod yn mynychu’r apwyntiad pan gewch eich gwahodd. 

Os nad ydych chi'n gallu mynychu'r apwyntiad, cofiwch ei ganslo, gan wneud apwyntiad newydd cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda.  

Am ragor o fanylion, ewch i Rhaglen frechu rhag COVID-19 - GOV.WALES (safle allanol) 


Oedolion

Mae COVID-19 yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol i oedolion hŷn a rhai gyda chyflyrau iechyd penodol. Bydd oedolion sydd mewn mwy o beryg o ddioddef effeithiau COVID-19 difrifol yn cael cynnig brechiad yr hydref a'r gaeaf hwn. Mae cael brechiad COVID-19 yn helpu i leihau'r peryg o salwch difrifol neu farwolaeth oherwydd COVID-19. 

Bydd oedolion yn y grwpiau canlynol yn gymwys i dderbyn dos sengl o frechlyn COVID-19 yn ystod Rhaglen frechu Resbiradol y Gaeaf 2024 fyn yr hydref: 

  • Preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn 

  • Pob oedolyn 65 mlwydd oed a hŷn  

  • Oedolion 18 i 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor sy'n eu rhoi mewn peryg 

  • Gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol rheng flaen  

  • Staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn  

  • Gofalwyr di-dâl 

Os ydych yn weithiwr gofal iechyd neu gymdeithasol, yn gweithio mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn, neu eich bod yn ofalwr di-dâl, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol os gwelwch yn dda er mwyn canfod sut i gael brechlyn COVID-19. 

Byddwch yn cael cynnig y brechlyn sy'n fwyaf addas i'ch oedran a'ch cyflwr.  

Gwnewch yn siŵr nad ydych yn oedi rhag cael eich brechlyn ffliw neu COVID-19 os cynghorir chi i wneud hynny. 


Sut ydw i'n gwybod a ydw i mewn grŵp risg clinigol? 

Os ydych chi mewn grŵp risg clinigol, mae'n golygu bod gennych gyflwr iechyd hirdymor sy'n eich rhoi mewn peryg o haint COVID-19 difrifol. Mae hyn yn cynnwys cyflyrau megis: 

  • problemau gyda'r frest neu'r ysgyfaint, gan gynnwys asthma sy'n cael ei reoli'n wael;  

  • cyflyrau difrifol ar y galon, neu broblemau gyda'r galon mewn cyfuniad â chyflyrau iechyd eraill;  

  • afiechyd ar yr aren, iau neu system dreulio;  

  • rhai cyflyrau niwrolegol neu anableddau penodol (er enghraifft epilepsi, parlys yr ymennydd neu syndrom Down) ac anableddau dysgu dwys;  

  • anhwylderau endocrin (megis clefyd siwgr neu afiechyd Addison);  

  • system imiwnedd sy'n wan oherwydd afiechyd neu driniaeth (er enghraifft, steroidau dos uchel, cemotherapi, radiotherapi neu drawsblaniad organ);  

  • problemau gyda'r ddueg, megis afiechyd crymangell, neu os yw'r ddueg wedi ei thynnu ymaith;  

  • cyflyrau genetig difrifol;   

  • cyflyrau meddygol difrifol eraill fel y cynghorir gan eich meddyg neu arbenigwr; a 

  • beichiogrwydd (ar unrhyw gam). 

Am ragor o fanylion, ewch i Rhaglen frechu rhag COVID-19 - GOV.WALES (safle allanol) 


Plant a phobl ifanc 

Cynghorir plant a phobl ifanc chwe mis oed i 17 mlwydd oed sydd â chyflwr iechyd sy'n eu rhoi mewn mwy o beryg o COVID-19 gael y brechlyn COVID-19. Mae cael brechiad COVID-19 yn lleihau'r posibilrwydd o gael eich taro'n ddifrifol wael neu farw o COVID-19. Mae cael eich brechu yn ffordd ddiogel ac effeithiol o amddiffyn eich plentyn rhag cael salwch difrifol a chael ei gymryd i'r ysbyty. 

Pa blant a phobl ifanc sydd mewn peryg o gael eu heintio gyda COVID-19?  

Gall COVID-19 effeithio ar unrhyw un. I'r rhan fwyaf o blant, mae COVID-19 yn salwch ysgafn sydd prin fyth yn arwain at gymhlethdodau. Mae rhai plant mewn mwy o beryg, gan gynnwys rhai sy'n byw gyda chyflyrau megis:  

  • problemau gyda'r frest neu'r ysgyfaint, gan gynnwys asthma sy'n cael ei reoli'n wael;  

  • cyflyrau difrifol ar y galon, neu broblemau gyda'r galon mewn cyfuniad â chyflyrau iechyd eraill;  

  • afiechyd ar yr aren, iau neu system dreulio;  

  • rhai cyflyrau niwrolegol neu anableddau penodol (er enghraifft epilepsi, parlys yr ymennydd neu syndrom Down) ac anableddau dysgu dwys;  

  • anhwylderau endocrin (megis clefyd siwgr neu afiechyd Addison);  

  • system imiwnedd sy'n wan oherwydd afiechyd neu driniaeth (er enghraifft, steroidau dos uchel, cemotherapi, radiotherapi neu drawsblaniad organ);  

  • problem gyda'r ddueg, er enghraifft afiechyd crymangell, neu os ydynt wedi cael y ddueg wedi ei thynnu ymaith;  

  • cyflyrau genetig difrifol;   

  • cyflyrau meddygol difrifol eraill fel y cynghorir gan eich meddyg neu arbenigwr; a 

  • phobl sy'n feichiog (ar unrhyw gam o'r beichiogrwydd). 

Pobl ifanc 16 oed a hŷn sy'n ofalwyr ac a all hefyd ddewis cael eu brechu y tymor hwn. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i Rhaglen frechu rhag COVID-19 - GOV.WALES (safle allanol) 

A yw'r brechlyn COVID-19 yn ddiogel ar gyfer plant a phobl ifanc?  

Mae'r holl feddyginiaethau a brechlynnau yn y DU yn cael eu monitro'n agos gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).  Maent wedi cymeradwyo'r brechlynnau i'w defnyddio gyda phlant a phobl ifanc, gan eu bod yn ddiogel ac yn effeithiol.  

Am ragor o wybodaeth am y brechlynnau COVID-19 a roddir i blant a phobl ifanc, am eu cynnwys a'u sgil effeithiau posib, ewch i medicines.org.uk/emc (safle allanol, Saesneg yn unig) (safle allanol). Bydd angen ichi nodi'r geiriau 'COVID vaccine' yn y blwch chwilio. Gallwch hefyd weld taflen y claf ar-lein. 


Brechiad COVID-19 ac imiwnoddiffygiant difrifol  

Mae'n bosib na fydd pobl chwe mis oed a hŷn sydd â chyflwr imiwnoataliedig difrifol neu'n datblygu cyflwr o'r fath (ac sydd ag imiwnedd gwan oherwydd cyflwr iechyd neu driniaeth feddygol) yn ymateb yn dda i'r brechlyn COVID-19.  

Dylid ystyried cymryd dos ychwanegol o'r brechlyn.  

  • Os nad ydych wedi derbyn unrhyw frechlyn COVID-19 blaenorol neu eich bod wedi datblygu cyflwr imiwnoataliedig difrifol yn ddiweddar yna dylech gael eich ystyried ar gyfer dos gyntaf o'r brechlyn, waeth beth fo'r amser o'r flwyddyn.  

  • Os nad ydych wedi derbyn unrhyw frechlyn COVID-19 blaenorol a'ch bod wedi datblygu cyflwr imiwnoataliedig difrifol yna dylech gael eich ystyried ar gyfer dos ychwanegol o'r brechlyn, dri mis wedi eich dos diwethaf, waeth beth fo'r amser o'r flwyddyn.  

Nod y dos ychwanegol yw cynyddu lefel eich amddiffyniad hyd nes yr ymgyrch dymhorol nesaf. Mae'n bosib bod pobl sydd â chyflwr imiwnoataliedig difrifol yn gymwys ar gyfer pigiadau atgyfnerthu tymhorol yn unol â chyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio.  

Am ragor o wybodaeth, ewch i:  

Foreign travel advice – GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig) 

Am ragor o fanylion, ewch i Raglen frechu rhag COVID-19 - GOV.WALES (safle allanol) 
 

Er mwyn canfod sut i gael eich brechlyn COVID-19, ewch i: 

Brechlyn ffliw a Brechlyn Hydref COVID-19 - Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Dilynwch ni: