Neidio i'r prif gynnwy

Am y brechlyn

Mae Coronafeirws (COVID-19) yn afiechyd heintus a achosir gan y firws SARS-CoV-2. Bydd gan y rhan fwyaf o bobl a heintir gan y feirws salwch resbiradol ysgafn i ganolig ac yn gwella heb fod angen triniaeth. Fodd bynnag, gall rhai pobl gael eu taro'n ddifrifol wael a bod angen gofal meddygol.  

Mae pobl hŷn sydd â chyflyrau meddygol megis clefyd y galon, clefyd siwgr, canser neu afiechyd resbiradol cronig (trafferthion anadlu hirdymor) yn fwy tebygol o ddatblygu salwch difrifol.  

Mae rhai o symptomau cyffredin COVID-19 yn cynnwys peswch newydd, parhaus, colli neu newid y gallu i arogli neu flasu, poenau, cur pen, blinder a gwendid. Mae rhagor o wybodaeth am COVID-19 ar gael o Canllawiau i bobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19 (safle allanol) 


Mae brechlynnau COVID-19 yn helpu i warchod rhag y prif fathau presennol o feirysau COVID-19.  

Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn gyfrifol am gymeradwyo'r defnydd o feddyginiaethau, gan gynnwys brechlynnau, a monitro eu diogelwch. Maent wedi cymeradwyo nifer o frechlynnau i’w defnyddio yn y DU fel brechlynnau COVID-19 diogel ac effeithiol.  

Yng Nghymru, rydym yn dilyn cyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) ar ddefnyddio gwahanol gynhyrchion brechu fel rhan o raglen frechu COVID-19.  

Cwestiynau a ofynnir yn aml 

Brechlyn ffliw a phigiad hydref COVID-19

Dilynwch ni: