Neidio i'r prif gynnwy

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Mae'r ffliw yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol os oes gennych chi gyflwr iechyd tymor hir, os ydych chi'n feichiog, neu'n hŷn.  

Gall y ffliw hefyd fod yn ddifrifol i blant ifanc. 

 Y llynedd yng Nghymru, cafodd bron i filiwn o bobl eu brechlyn ffliw. Mae hynny tua un o bob tri o bobl. 


Os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi, hyd yn oed os ydych yn teimlo’n iach, rydych yn fwy tebygol o gael cymhlethdodau o’r ffliw os byddwch yn ei ddal, ac fe’ch cynghorir i gael brechiad y ffliw os: 

  • Rydych chi'n feichiog
  • Rydych chi'n 65 oed neu'n hŷn
  • Rydych chi rhwng chwe mis a 64 oed ac mae gennych gyflwr iechyd tymor hir sy’n eich rhoi mewn mwy o berygl o’r ffliw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
    • Diabetes
    • Problem gyda’r galon
    • Cwyn gyda’r frest neu anawsterau anadlu, gan gynnwys clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) ac asthma sydd angen mewnanadlydd steroid neu dabledi rheolaidd
    • Clefyd yr arennau (o gam 3)
    • System imiwnedd wan o ganlyniad i afiechyd neu driniaeth (a hefyd cysylltiadau agos â phobl yn y grŵp hwn) 
    • Clefyd yr iau / afu
    • Wedi cael strôc neu strôc fechan
    • Cyflwr niwrolegol fel clefyd Parkinson, neu glefyd motor niwron
    • Dueg ar goll neu broblem gyda’r dueg
    • Anabledd dysgu
    • Salwch meddwl difrifol
    • Gordewdra difrifol (gordewdra dosbarth III). Diffinnir hyn fel y rhai â Mynegai Màs y Corff (BMI) o 40 neu uwch, 16 oed neu hŷn.
    • Epilepsi
  • Rydych chi'n byw mewn cartref gofal
  • Rydych chi’n ddigartref 

Mae'r grwpiau canlynol hefyd yn cael eu cynghori i gael brechiad y ffliw i'w hamddiffyn nhw a'r bobl o'u cwmpas:

  • Plant dwy a thair oed (oedran ar 31 Awst 2024)
  • Plant a phobl ifanc yn yr ysgol o'r dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11
  • Gofalwyr
  • Pobl sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda chleifion/chleientiaid ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol
  • Ymatebwyr cyntaf ac aelodau o sefydliadau gwirfoddol sy'n darparu cymorth cyntaf brys wedi'i gynllunio
  • Unigolion sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan 

Bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael brechiad y ffliw drwy chwistrell trwyn gan mai dyma’r brechiad ffliw gorau iddyn nhw. Mae'n ddafnau mân sy’n cael eu chwistrellu i fyny'r trwyn ac mae posib ei roi o ddwy oed.

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael brechiad y ffliw, dylai ei feddygfa neu nyrs yr ysgol gysylltu â chi. Os ydych chi’n meddwl y gallai eich plentyn fod wedi methu ei frechiad, cysylltwch â'r nyrs ysgol os yw o oedran ysgol, neu'r feddygfa os nad yw yn yr ysgol.

Os ydych chi’n meddwl efallai eich bod wedi methu’r gwahoddiad i gael brechiad y ffliw, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu’ch fferyllfa gymunedol.


Sut i gael brechiad y ffliw

Sut i gael brechiad y ffliw
Grŵp cymwys Ble i gael eich brechiad y ffliw
Plant dwy neu dair oed (oedran ar 31 Awst 2024) Meddygfa (DS, mewn rhai ardaloedd, mae plant tair oed yn cael cynnig y brechiad mewn meithrinfa)
Plant ysgolion cynradd ac uwchradd  Ysgol gynradd ac uwchradd
Plant pedair oed neu hŷn nad ydynt yn yr ysgol  Gwnewch apwyntiad gyda'r Meddyg Teulu 
Plant rhwng 6 mis a dan 18 oed â chyflwr iechyd tymor hir Meddygfa (DS. bydd plant oedran ysgol gynradd ac uwchradd yn cael cynnig eu brechiad ffliw yn yr ysgol)
Merched beichiog Meddygfa, rhai fferyllfeydd cymunedol neu, mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, gan eu bydwraig
Cyflyrau iechyd tymor hir (oedolion) Meddygfa neu rai fferyllfeydd cymunedol
Pobl 65 oed a hŷn Meddygfa neu rai fferyllfeydd cymunedol
Gofalwyr di-dâl  Meddygfa neu rai fferyllfeydd cymunedol
Gofalwyr cartref Fferyllfa gymunedol (neu mewn rhai ardaloedd, mae trefniadau eraill)
Staff gofal cartref Fferyllfa gymunedol (neu mewn rhai ardaloedd, mae trefniadau eraill)
Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol  Drwy gyflogwr

Yn ddelfrydol, dylid rhoi’r brechlyn ffliw cyn i’r ffliw ddechrau lledaenu yn y gymuned. Fodd bynnag, gellir ei roi ar ddyddiad yn ddiweddarach hefyd.  

Oedolion

Plant a phobl ifanc

 

 

Dilynwch ni: