Gellir rhoi'r brechlyn chwistrell trwy’r trwyn yn ddiogel i'r rhan fwyaf o blant sydd ag alergedd i wyau. Os yw eich plentyn wedi cael adwaith difrifol (sy'n peryglu bywyd) i wy a oedd angen triniaeth gofal dwys, dylid cynnig brechlyn ffliw priodol iddo drwy bigiad.
Siaradwch â'ch ymwelydd iechyd, nyrs ysgol, meddyg teulu neu nyrs practis am ragor o gyngor.
Mae pigiadau brechlyn ffliw di-wyau ar gael.