Mae ymgyrch ffliw'r gaeaf (tymor ffliw 2025-26) bellach wedi dod i ben.
Byddwn yn rhannu gwybodaeth am ymgyrch ffliw'r gaeaf ar gyfer 2026 maes o law.
Diweddarwyd: 24 Ebrill 2026
Bob blwyddyn yng Nghymru, mae tua miliwn o bobl yn cael eu brechlyn ffliw. Mae hynny'n fwy nag un o bob pedwar person.
Mae'r ffliw yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol os oes cyflwr iechyd hirdymor gyda chi, neu os ydych chi’n feichiog neu'n hŷn.
Gall ffliw fod yn ddifrifol i blant ifanc hefyd.
Gall y ffliw fod yn ddifrifol iawn. Mae'n cael ei achosi gan feirws, sy'n cael ei ledaenu gan beswch a thisian. Gall symptomau ffliw fod yn ysgafn ond gall hefyd arwain at afiechydon mwy difrifol fel broncitis a niwmonia (heintiau ar yr ysgyfaint), a all fod angen triniaeth yn yr ysbyty.
Mae ffliw yn heintus iawn, a gall symptomau ymddangos yn gyflym iawn. Mae symptomau ffliw yn cynnwys tymheredd uchel, blinder a gwendid, cur pen, poenau a pheswch. Mae rhagor o wybodaeth am y ffliw ar gael ar wefan GIG 111 Cymru.
Mae achosion o ffliw y rhan fwyaf o aeafau, yn enwedig mewn ysbytai a chartrefi gofal.
Mewn gaeaf arferol, bydd miloedd o bobl yn marw o salwch sy'n gysylltiedig â ffliw yn y DU. Cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn rhag y ffliw. Mae’n bwysig iawn cael eich brechlyn ffliw bob blwyddyn os ydych chi’n gymwys.
Mae brechlynnau ffliw yn gyflym ac yn ddiogel iawn a gallent atal wythnosau o salwch difrifol.
|
Am fwy o wybodaeth am y brechiad ffliw, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. |